Uwch Gynghrair Lloegr: Caerdydd 2-1 Wolverhampton Wanderers

  • Cyhoeddwyd
Junior HoilettFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Caerdydd ar y blaen gyda llai na chwarter awr yn weddill diolch i ergyd Junior Hoilett

Sgoriodd Junior Hoilett chwip o gôl i sicrhau triphwynt gwerthfawr i Gaerdydd yn erbyn Wolves yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener.

Roedd yr Adar Gleision ar ei hôl hi yn dilyn gôl gan amddiffynnwr Wolves, Matt Doherty yn yr hanner cyntaf.

Ond fe sgoriodd y tîm cartref ddwywaith yn yr ail hanner i godi Caerdydd allan o safleoedd y cwymp ac i 15fed yn y tabl.

Mae'r fuddugoliaeth yn anrheg pen-blwydd delfrydol i'r rheolwr Neil Warnock, sy'n troi'n 70 oed ddydd Sadwrn.

Ffynhonnell y llun, Michael Steele
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Aron Gunnarsson i ddod â'r sgôr yn gyfartal

Mwy o chwaraeon:

Er i'r ymwelwyr fynd ar y blaen, roedd Caerdydd yn bygwth gyda Harry Arter yn taro'r postyn yn yr hanner cyntaf gydag ergyd o bell.

Ond fe ddaeth gôl agoriadol y tîm cartref wedi 65 munud o'r chwarae - Aron Gunnarsson yn sgorio ag ergyd acrobataidd yn y cwrt cosbi.

A gyda llai na chwarter awr yn weddill, fe ddisgynnodd y bêl yn garedig i Hoilett ac fe darodd yr asgellwr ergyd nerthol i gornel ucha'r rhwyd o tua 20 llath.

Dyma oedd trydedd fuddugoliaeth Caerdydd o'r tymor.