Heddlu'n recriwtio ditectifs i ddelio â 'throseddau cyfoes'
- Cyhoeddwyd
Bydd Heddlu Gogledd Cymru yn recriwtio 30 o swyddogion arbenigol i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn troseddau cyfoes.
Cafodd y cynlluniau i ad-drefnu rheng flaen y llu eu rhannu i Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru mewn cyfarfod yng Nghonwy ddydd Llun.
Mae'r ad-drefnu ymysg y mwyaf mae'r llu wedi ei weithredu, a'r newidiadau'n dod yn sgil toriadau i gyllideb yr heddlu ers 2010.
Yn ôl y Prif Uwch-arolygydd Alex Goss, mae "newid yn natur troseddu" a'r pwysau cynyddol ar dditectifs wedi cyfrannu at y galw i recriwtio mwy o staff.
Mwy o bwysau ar dditectifs
Bydd 18 ditectif ychwanegol yn cael eu cyflogi, gyda 12 o staff arbenigol yn eu cefnogi.
Yn ogystal â recriwtio mwy o swyddogion, bydd patrwm shifftiau'n cael eu hadolygu er mwyn sicrhau bod mwy o swyddogion ar y rheng flaen drwy'r amser.
Y gobaith yw mynd i'r afael â throseddau newydd fel troseddau seiber a cham-fanteisio ar blant a phobl ifanc sy'n agored i niwed gan gangiau cyffuriau.
Yn ôl y Prif Uwch-arolygydd Goss: "Mae nifer o ffynonellau gwybodaeth wedi amlygu bod lefel cyfredol y galw ar ein hadnoddau ditectif gyda'r uchaf erioed.
"Mae'r newid yn natur troseddu o ran cwmpas a chymhlethdod, ynghyd â'r hinsawdd economaidd bresennol, wedi creu tensiynau aruthrol yn ein gallu i ymateb i aelodau mwyaf bregus ein cymunedau.
"O ganlyniad, mae'r pwysau ar ein ditectifs wedi cynyddu ac mae'r galw bellach yn fwy na'r gallu i'w ddiwallu - ac mae'r duedd hon yn mynd i barhau."
'Rhaid addasu'
Dywedodd Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd y gogledd, ei fod yn canmol y "cynllun rhagorol".
"Mae natur plismona wedi newid yn sylweddol ac rydym yn wynebu heriau newydd a chynyddol felly mae'n rhaid i'r heddlu esblygu ac addasu yn unol â hynny," meddai.
"Nid yw parhau i wneud pethau yn yr un ffordd yn opsiwn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2017