Mwy o blismyn yn absennol o'r gwaith oherwydd straen
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y plismyn sy'n absennol o'r gwaith oherwydd straen wedi mwy na dyblu yn y pedair blynedd ddiwethaf, yn ôl ffigyrau newydd.
Mae cais rhyddid gwybodaeth yn dangos fod 86 swyddog ar draws Cymru yn rhy sâl i weithio yn ystod mis Mehefin eleni, a hynny oherwydd materion yn ymwneud ag iechyd meddwl.
Ym Mehefin 2013, 37 oedd y nifer - gan olygu bod cynnydd o dros 130% wedi bod ers y cyfnod hwnnw.
Ond roedd y nifer eleni wedi gostwng o'i gymharu â Mehefin 2016, pan oedd 97 o swyddogion yn absennol o'r gwaith.
Dywedodd is-gadeirydd Ffederasiwn yr Heddlu, Calum Macleod, bod y gostyngiad yn nifer y staff ers 2009 wedi cynyddu'r pwysau ar swyddogion.
Rhaglen y Golau Glas
"Mae nifer o ddyddiau gorffwys swyddogion yn cael eu canslo heb fawr o rybudd, ac felly maent yn treulio llai o amser gyda'u teuluoedd," meddai.
Heddlu'r De sydd yn cyflogi'r nifer fwyaf o blismyn, a nhw oedd â'r nifer mwyaf yn absennol o'r gwaith. Ym mis Mehefin roedd 60 i ffwrdd oherwydd straen.
Roedd wyth swyddog o Heddlu'r Gogledd i ffwrdd, wyth swyddog o Heddlu Dyfed Powys yn absennol, a 10 o Heddlu Gwent.
Ym mis Ebrill, fe gyhoeddodd elusen iechyd meddwl Mind fanylion cynllun i leddfu straen gweithwyr y gwasanaethau brys, ond yn ôl Mr Macleod dyletswydd cyflogwyr yw gwneud hynny ac nid elusen.
Dywedodd Dirprwy Prif Gwnstabl Heddlu'r De, Richard Lewis, fod Heddlu'r De yn rhoi "bob cefnogaeth posib" i'w swyddogion, ac ychwanegodd: "Ry'n ni'n parhau i weithio'n galed er mwyn creu man gwaith lle mae'n iawn i siarad am iechyd meddwl."
Dywedodd Heddlu Gwent fod ganddyn nhw wasanaeth cyfrinachol ar gyfer staff "saith diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn" a bod y gwasanaeth hwnnw yn cynnwys cwnsela.
Mae Heddlu'r Gogledd yn dweud eu bod yn falch fod llai o blismyn yn absennol o'r gwaith. Un rheswm am hynny, medden nhw, yw "cydweithio" â gwasanaethau cwnsela.
Dyw Heddlu Dyfed Powys ddim wedi ateb y cais am sylw.
Dywedodd y Swyddfa Gartref eu bod yn cydnabod y "gwaith heriol unigryw" sy'n wynebu plismyn a'r gofynion disgwyliedig, ond bod yr Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd wedi cyhoeddi swm o £7.5m ar gyfer gwasanaeth sy'n edrych ar ôl lles yr heddlu. Mi fydd hwnnw'n ychwanegol at y gwasanaethau sy'n cael eu cynnig eisoes gan yr heddlu.
Profiad plismon
"Dyw plismon ddim, dim ond, yn arestio dynion drwg a'u cyhuddo.
"Bellach nhw sy'n cynnal yr ymchwiliad, maen nhw wedyn yn casglu tystiolaeth ar gyfer Gwasanaeth Erlyn y Goron. Y swyddog yna sy'n cynnal yr holl ymchwiliadau ac os yw'r mater yn mynd i Lys y Goron mae'n bosib y bydd y Gwasanaeth Erlyn angen tystiolaeth bellach ac y mae hynny yn golygu mwy o waith papur.
"Bydd y gwaith yna wedyn yn dod nôl i'r swyddog sy'n delio gyda'r achos, sydd erbyn hynny'n delio gyda phobl eraill yn y ddalfa - ac y mae hyn yn digwydd bob dydd.
"Dwi wedi gweld cydweithwyr sydd heb gael cefnogaeth deuluol ac sy'n credu y gallant ddelio gyda'r cyfan ar eu pennau eu hunain - yn aml mae hynny'n arwain at ganlyniadau trasig.
"Yn aml ry'ch chi'n mynd â phroblemau'r gwaith adre gyda chi ac yn dod â'r problemau adre i'r gwaith.
"Un diwrnod nes i ganfod fy hun yn dal fy mhen yn fy nwylo tra'n eistedd wrth fy nesg - allwn i ddim cymryd rhagor.
"Dy'ch chi ddim yn sylweddoli pan mae iselder yn eich taro - ond pan mae e'n dod mae'n dod go iawn.
"Rhaid i blismyn siarad am eu hiselder - os na fydd hynny'n digwydd mi fydd yn eich bwrw'n galed ac o bosib yn eich torri."