Naw ymosodiad ar Heddlu'r Gogledd dros y penwythnos
- Cyhoeddwyd
![heddlu](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/17070/production/_104602349_mediaitem92457920.jpg)
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud bod ymosodiadau ar eu staff yn "annerbyniol", yn dilyn naw digwyddiad o'r fath dros y penwythnos.
Dywedodd y llu y bu ymosodiadau ar heddweision ym Mangor, Deiniolen, Llandudno, Prestatyn, Y Rhyl a Wrecsam.
Roedd un o'r ymosodiadau yma yn ystod y gêm bêl-droed rhwng Wrecsam a Chasnewydd nos Sadwrn, ac roedd ymosodiad ar heddwas arall yn Wrecsam dros y penwythnos hefyd.
Ymosodwyd ar ddau swyddog ym Mangor nos Wener wrth iddyn nhw arestio rhywun, ac roedd digwyddiad tebyg yn Neiniolen brynhawn Sadwrn.
Roedd ymosodiadau ar heddweision yn Llandudno a Phrestatyn hefyd, ac ymosodiad ar ddau swyddog yn Y Rhyl wrth ddelio â pherson am fod yn feddw.
'Digwyddiadau brawychus'
Dywedodd dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Neill Anderson: "Rydym wedi mynegi ein gofid nifer o weithiau eleni am barodrwydd rhai unigolion i ymosod ar swyddogion heddlu a SCCH wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau.
"Mae'r digwyddiadau brawychus hyn dros y penwythnos ar draws gogledd Cymru yn hollol annerbyniol.
"Ni ddylai ymosodiad o unrhyw fath gael ei ystyried yn 'rhan o'r job' a rhaid i droseddwyr ddeall na fydd Heddlu Gogledd Cymru yn dioddef ymddygiad o'r fath.
"Yn ffodus nid oedd neb wedi eu hanafu yn ddifrifol ac wrth i dymor yr ŵyl ddechrau bydd y cyhoedd yn gweld swyddogion allan yn ceisio cadw ein cymunedau yn ddiogel."