Atal hunanladdiad 'yn fusnes i bawb'
- Cyhoeddwyd
Ni all siarad â rhywun sy'n ystyried hunanladdiad fyth wneud pethau'n waeth.
Dyna neges Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad wrth gyhoeddi adroddiad ar atal hunanladdiad.
Galwodd y pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i gydnabod hunanladdiad ymysg dynion fel blaenoriaeth genedlaethol,
Mae ffigyrau yn dangos o'r 360 o bobl wnaeth ladd eu hunain y llynedd, roedd 278 yn ddynion. Dyma'r ffigwr ucha' ers dechrau'r 80au.
Mae'r adroddaid yn pwysleisio fod atal pobl ifanc rhag lladd eu hunain yn fusnes i bawb.
Er bod y pwyllgor yn credu bod angen gwasanaethau gwell a chyson ar frys er mwyn helpu'r rheini y mae hunanladdiad yn effeithio arnynt, mae hefyd yn credu bod angen mwy o ymdrech i godi ymwybyddiaeth o faterion hunanladdiad ymhlith y cyhoedd, yn ogystal â staff rheng flaen yn y gwasanaethau brys.
Clywodd aelodau'r pwyllgor dystiolaeth nad oes dull gweithredu cyson yng Nghymru, gyda rhai mudiadau yn cynnig cymorth mewn gwahanol feysydd ond heb fawr o ran arian cyhoeddus i'w cefnogi.
Mae Cymorth wrth Law Cymru yn un o'r gwasanaethau o'r fath, sy'n cael ei ddarparu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Clywodd y Pwyllgor fod y gwasanaeth yn effeithiol ac yn help mawr, ond nad oes digon o bobl, gan gynnwys pobl yn y proffesiwn meddygol, yn gwybod ei fod yn bodoli.
'Y pethau bach'
Dywedodd Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: "Y neges allweddol rydym wedi'i chlywed yw bod hunanladdiad yn fusnes i bawb; dyna'r neges y mae angen i bawb ohonom ei chofio a'i rhannu.
"Mae gan bob un ohonom ein rhan i'w chwarae o ran cynnig cymorth i bobl sydd mewn angen. Rydym ni'n gwybod y gall cymorth gan rywun arall wneud gwahaniaeth mawr i rywun sy'n meddwl am hunanladdiad.
"Ni ddylem ddibynnu ar weithwyr proffesiynol meddygol neu'r gwasanaethau brys i ddarparu'r cymorth hwn - gallwn ni i gyd helpu drwy gynnig cyfle i siarad.
"Mae angen i ni godi ymwybyddiaeth o'r pethau bach y gallwn ni i gyd eu gwneud a lledaenu'r neges na fydd siarad â rhywun sydd mewn gofid yn gwneud y sefyllfa'n waeth."
Mae'r Pwyllgor yn gwneud 31 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:
Dylai Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill, gan gynnwys byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol, drefnu bod cyllid penodol ar gael ar gyfer atal hunanladdiad i sicrhau ei fod yn gynaliadwy yn yr hirdymor;
Dylid mabwysiadu fframwaith hyfforddiant ar atal hunanladdiad a'i weithredu ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus mewn ffordd debyg i'r fframwaith ar gyfer trais domestig, lle y manylir ar y gofynion o ran hyfforddiant yn dibynnu ar y rôl;
Dylai Llywodraeth Cymru arwain y gwaith o hyrwyddo deunyddiau sydd eisoes yn bodoli, megis yr adnodd hyfforddi "See. Say. Signpost." fel rhan o ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a sefydlu'r neges bod hunanladdiad yn fusnes i bawb ac y gall ddigwydd mewn unrhyw gymuned ar unrhyw adeg;
Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau ar fyrder i sicrhau bod pob meddyg teulu yng Nghymru yn ymwybodol o ganllawiau'r Cyngor Meddygol Cyffredinol ynghylch rhannu gwybodaeth a'r datganiad consensws a gytunwyd gan Adran Iechyd y DU, y Colegau Brenhinol a phartneriaid eraill;
Dylai Llywodraeth Cymru gymryd yr holl gamau angenrheidiol i sicrhau cydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd meddwl a chorfforol. Dylai hyn fod yn gysylltiedig â "Cymru Iachach", a rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ei chynlluniau ar gyfer datblygu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn rhoi'r un flaenoriaeth i iechyd meddwl a lles meddyliol ag y maent yn ei rhoi i iechyd corfforol;
Dylid cyflwyno targed ar gyfer amseroedd aros am therapïau seicolegol i sicrhau bod y rhai sydd mewn angen yn cael y cymorth hwn o fewn amserlen briodol. Mae mynediad cynnar at therapi priodol yn gallu darparu'r ymyrraeth y mae ei hangen ac atal yr angen i rywun gael gofal mewn argyfwng yn nes ymlaen.
Bydd yr adroddiad bellach yn cael ei drafod gan Lywodraeth Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd10 Medi 2018