Drakefordiaeth
- Cyhoeddwyd
O'r diwedd.
Mae Llafur Cymru wedi dewis ei arweinydd nesaf ac wythnos nesaf fe fydd gan Gymru Brif Weinidog newydd ar ddiwedd proses oedd yn boenus o hir a chwbl ddiangen.
Mae gen i un gair o gyngor i'r dyn newydd cyn cychwyn. Pan ddaw hi'n amser i ti fynd, Mark bach, cyhoedda a cher.
Dyw ymbalfalu o gwmpas am fisoedd fel y chwaden gloffa y gwelodd dyn erioed yn gwneud dim lles i unrhyw un.
Beth sydd i ddisgwyl gan Mark Drakeford felly?
Rhodri 2.0 oedd Carwyn Jones, mewn gwirionedd.
Fel gwleidydd pragmatig yn llywodraethu mewn cyfnod o lymder roedd dwylo Carwyn wedi eu clymu i raddau ond teg yw dweud hefyd nad ideoleg oedd yn ei yrru.
Roedd ganddo'i werthoedd yn sicr, cyfiawnder cymdeithasol a chenedlaetholdeb 'g' fach ond nid ar seiliau dogmatig yr oedd e'n llywodraethu Cymru.
Nid Carwyn 2.0 na Rhodri 3.0 yw Mark Drakeford.
Dyn ag argyhoeddiadau dwfn ideolegol yw'r arweinydd newydd ac yn sylfaen iddyn nhw i gyd mae'r gred bod y gyfundrefn wleidyddol ac economaidd presennol yn un anghyfiawn a ffaeleddus.
Nid tincran sydd ei hangen ond newid.
Nawr mae gallu Llywodraeth Cymru i gyflawni'r fath yna o newid yn gyfyng a hynny am ddau reswm.
Yn gyntaf wrth gwrs mae'r rhan fwyaf o'r arfau macro-economaidd o hyd yn nwylo gwleidyddion San Steffan a'r marchnadoedd arian.
Yn ail, mae economi Cymru mor fach ac mor dlawd y byddai ei thrawsnewid y tu hwnt i hyd yn oed llywodraeth gwbl annibynnol. Dyna o leiaf yw barn Mark ei hun.
Ystyriwch am eiliad y dyfyniad isod o gyfweliad Mark ar wefan Nation.Cymru, dolen allanol:
"The tax and the benefit system are an essential part of what makes the United Kingdom worth having, in that, that is the great engine of redistribution and I'm not in favour of breaking it up."
Y broblem gyda'r ddadl yna, ac fe fydd Mark yn ymwybodol o hyn, yw bod y Deyrnas Unedig yn fwy o Austin Allegro na BMW pan ddaw hi at leddfu anghyfartaledd.
Dyw'r "great engine of redistribution" yna ddim yn profi'n effeithlon iawn pan y'ch chi'n cymharu'r anghyfartaledd rhwng gwahanol wledydd a rhanbarthau Ynys y Cedyrn â'r anghyfartaledd oddi mewn i wledydd ar dir mawr Ewrop.
Mae hynny'n dod â ni at ddadl ddeallusol a allai brofi'n ddiddorol a difyr dros y blynyddoedd nesaf.
Mae Mark Drakeford ac Adam Price ill dau yn gytûn ynghylch problem sylfaenol economi Cymru sef ein bod wedi byw am ganrifoedd mewn cyfundrefn sydd wedi sugno cyfoeth allan o'r wlad gan adael tlodi a fawr ddim byd arall ar ei ôl.
Mae annibyniaeth o leiaf yn rhan o'r ateb yn ôl Adam tra bod Mark yn deisyfu am beiriant Prydeinig mwy effeithlon. Rwy'n edrych ymlaen at glywed y dadleuon!