ASE Cymru, Nathan Gill yn dweud ei fod yn gadael UKIP

  • Cyhoeddwyd
Nathan Gill

Mae un o Aelodau Senedd Ewrop Cymru, Nathan Gill, wedi cyhoeddi ei fod wedi gadael plaid UKIP.

Roedd Mr Gill yn arweinydd UKIP Cymru am gyfnod, ac fe gafodd ei ethol yn Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru yn 2016.

Gadawodd ei sedd yn y Cynulliad yn Rhagfyr 2017, wedi i Neil Hamilton ei ddisodli fel arweinydd y grŵp Cynulliad.

Mewn datganiad byr ar ei gyfrif Twitter dywedodd Mr Gill: "Nid wyf wedi gadael UKIP, UKIP sydd wedi fy ngadael i.

"Roedd y blaid yr ymunais i â hi yn canolbwyntio ar gael y DU allan o'r Undeb Ewropeaidd.

"Ni allaf barhau i fod yn aelod o blaid sydd wedi symud ei sylw cyntaf o Brexit i ymlid ffôl yn erbyn Islam, a hybu Tommy Robinson (sydd ddim o blaid Brexit nac yn aelod o UKIP).

"Mae UKIP wedi bradychu ei haelodau, Brexit a phobl Prydain."

Nid oedd Mr Gill am wneud sylw pellach.