Parti Nadolig i gŵn yng Nghaernarfon
- Cyhoeddwyd
Cafodd parti Nadolig i gŵn a'u perchnogion ei gynnal yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon dros y penwythnos - y cyntaf o'i fath yng ngogledd Cymru.
Cwmni Dog Furiendly oedd wedi trefnu'r parti - cwmni o Gaerdydd sy'n arbenigo mewn digwyddiadau, gweithgareddau ac adnoddau i gŵn a'u perchnogion.
Yn ystod y gweithgareddau roedd gwesteion yn cael eu croesawu gyda gwin a chwrw arbennig i gŵn, ac roedd cyfle i gwrdd â Siôn Corn a chael tynnu lluniau.
Roedd yna hefyd gystadlaethau ar gyfer y gwisgoedd ffansi gorau a'r triciau gorau.
Ar gyfer y cŵn, nid y bobl!
Roedd y trefnydd, Emma Hughes, o gwmni Dog Furiendly, a'i Dachshund tair mlwydd oed Seth yn y parti.
Dywedodd: "Roeddan ni wedi trefnu taith gerdded adeg Calan Gaeaf yn Llandudno, ond y parti Dolig yng Nghaernarfon ydy'r cynta' yn yr ardal yma.
"Mae wedi bod yn eitha' swnllyd hefo'r holl gyfarth! Ond mae pawb wedi mwynhau ac mae'n rhywbeth hollol wahanol.
"Mae popeth yma ar gyfer y cŵn, nid y bobl! Mae'r nifer sydd wedi dod yn dangos bod 'na ddiddordeb yn y math yma o ddigwyddiadau."
Roedd rhai o'r bobl yn y parti yn dweud bod angen mwy o weithgareddau tebyg yn yr ardal.
"Mae 'na brinder o lefydd fedrwch chi fynd efo'ch ci," meddai un. "Dwi ddim yn teimlo mor annifyr yn dod i rywle fel hyn, am bod pawb yma hefo'u cŵn.
"Tase busnesau'n sylweddoli, mi fase 'na fwy o bobl yn mynd i siopau a chaffis a ballu 'tasen nhw'n cael mynd â'u cŵn hefo nhw. Mi fasa mwy o ymwelwyr yn dod i'r ardal hefyd."
Yn ddiweddar fe agorodd sinema arbennig i gŵn a'u perchnogion yn Abergele, ac mae rhai eglwysi wedi trefnu digwyddiadau arbennig i bobl fynd i addoli hefo'u hanifeiliaid anwes.
Mae Emma Hughes yn dweud ei bod hi wedi dod yn ffasiynol iawn i drefnu digwyddiadau y gall pobl fwynhau gyda'u cŵn.
"Mae pobl yn caru eu cŵn," meddai. "Maen nhw eisiau eu gweld nhw'n hapus a rhoi cyfle iddyn nhw gymdeithasu hefo cŵn eraill. Maen nhw'n rhan o'r teulu wedi'r cwbl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2016