Steffan Lewis AC: 'Ddim am i'r canser fy niffinio'
- Cyhoeddwyd
Ers pan oedd yn blentyn ysgol, un peth roedd yr Aelod Cynulliad Steffan Lewis eisiau bod, sef gwleidydd.
Bellach yn 34 mlwydd oed ac yn brwydro canser mae'n dal yn benderfynol mai hynny sy'n ei ddiffinio, ac nid y salwch sy'n bygwth ei fywyd meddai ar raglen Beti a'i Phobl, Radio Cymru.
Dywedodd wrth Beti George fod ei waith fel gwleidydd yn "hollbwysig" iddo a bod parhau i weithio "yn ffordd o ddangos i'r canser nad yw'n mynd i 'nghuro i, ddim ym mhob ystyr beth bynnag.
"Mae ngwaith i yn rhan mor ganolog o'n hunaniaeth i alla' i ddim dychmygu fi heb wleidyddiaeth.
"Mae'r gallu i fynd i waith a chydweithio gydag eraill a trio 'ngorau glas i wneud gwahaniaeth yn hanfodol i fi."
Yn Aelod Cynulliad ers pan oedd yn ddim ond 32 oed, roedd Steffan Lewis wedi bod yn weithgar mewn gwleidyddiaeth ers amser cyn hynny.
Roedd yn annerch cynhadledd Plaid Cymru yn 14 oed (ddwy flynedd yn iau na William Hague pan wnaeth ei araith enwog yng nghynhadledd y Ceidwadwyr!).
Safodd mewn etholiad y tro cyntaf yn 2006, yn isetholiad Blaenau Gwent pan oedd yn 21 mlwydd.
Yna daeth yr aelod ieuengaf ar y pryd o Gynulliad Cymru pan gafodd ei ethol fel aelod Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru yn 2016.
Llythyru gyda Dafydd Wigley
Daeth ei ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth yn naturiol, meddai, wedi ei fagu mewn cartref dwyieithog yn y Coed Duon lle roedd gwleidyddiaeth yn cael ei drafod ar yr aelwyd.
Mae'n ffodus iawn o anogaeth ei rieni, meddai: "Os nad oedd gyda nhw'r atebion i'r cwestiynau anodd o'n i'n gofyn fel crwtyn ifanc o'n nhw'n help mawr i fi sgrifennu at y bobl oedd gyda'r atebion.
"Fi'n cofio Mam yn rhoi teipiadur i fi pan o'n i'n ifanc iawn a fi'n sgrifennu at Dafydd Wigley pan o'n i'n 11 mlwydd oed yn gofyn cwestiynau iddo fe.
"Fi ddim yn siŵr beth oedd y dyn post yn ei feddwl pan oedd e'n cael yr amlenni 'ma gyda'r House of Commons arnyn nhw drwy'r amser a siŵr o fod oedd Dafydd Wigley wedi cael lond bola arno fi'n sgwennu ato fe!"
Oherwydd hyn cafodd "brentisiaeth answyddogol gwleidyddol yn ifanc iawn" meddai.
"Wedyn aeth fy nhad a fi i 'nghyfarfod Plaid Cymru cyntaf lleol a fi'n cofio dadlau enfawr a meddwl 'Waw mae hyn yn briliant - mae oedolion yn siarad fel hyn gyda'i gilydd?!' Ac o'n i'n meddwl 'fi mo'yn bod yn rhan o hyn'.
"O'n i wedi ystyried falle y dylwn i gael profiad gwahanol ond mae gwleidyddiaeth yn rhywbeth... os ydych chi'n cael eich cyfle chi rhaid i chi fynd amdani.
"Ac o'n i'n ffodus iawn i gael y cyfle i weithio dros nifer o wleidyddon penigamp cyn dod yn wleidydd fy hunan a dysgu lot fawr - mae hynny wedi fy ngwneud i'n wleidydd llawer mwy effeithiol."
Pan gafodd y diagnosis yn 2017 a bod "dim siaws o iachâd" ym marn y meddygon, dywed bod ei ffrind a'r cyn-Aelod Cynulliad Jocelyn Davies wedi dweud wrtho i beidio â gadael i'r canser ei ddiffinio, a bod hynny wedi aros gydag ef.
"Dwi ddim yn mynd i fod jyst y Steffan Lewis sydd efo canser. Dwi'n mynd i fod yn Steffan Lewis y tad, Steffan Lewis y mab, Steffan Lewis y gŵr a Steffan Lewis y gwleidydd," meddai.
Er iddo gael gwybod bod y canser y coluddyn cyfnod pedwar y cafodd ddiagnosis ohono wedi lledu i rannau eraill o'i gorff, mae'n dal i weithio fel AC dros ei etholaeth a llefarydd ei blaid ar Brexit.
Wedi i dreial cyffuriau newydd dros yr haf fod yn aflwyddiannus bydd yn debyg o gychwyn ail gwrs o gemotherapi yn nechrau 2019 ac nid yw'n rhoi'r gorau i obaith y daw datblygiad pellach mewn triniaethau canser.
Yn ogystal â pharhau gyda'i waith yn y Cynulliad mae hefyd yn cymryd bob cyfle i fagu perthynas gyda'i fab, Celyn, sy'n dair oed.
"Mae'r cyfnod diwetha' 'ma wedi bod yn anodd iawn ond rhaid i mi ddechrau wynebu cwestiynau anodd iawn ynglŷn â marwolaeth.
"Mae Celyn wedi bod yn gyment o hwb, fel mae plant.
"Mae'n rhoi cyd-destun i bopeth, pethau fel mynd i'r parc ar b'nawn dydd Sul. Os fi'n llwyddo i wneud hwnna, mae hwnna'n uchafbwynt i'r wythnos.
"Y'n ni wedi datblygu bond pwysig iawn a mae wedi bod yn bwysig i fi greu'r bond yna achos sa'i moyn iddo fe anghofio.
"Ond mae wynebu pethau fel marwolaeth a 'nymuniadau i pan mae fy amser i'n dod, mae meddwl am stwff fel'na wedi bod yn anodd dros ben."
Roedd Steffan Lewis yn siarad yn agored am ei salwch, ei driniaeth, ei wleidyddiaeth a'r gefnogaeth mae wedi ei chael gan ei deulu ac aelodau o'r cyhoedd ar raglen Beti a'i Phobol.
I glywed y cyfweliad yn llawn ewch i BBC Sounds.
Hefyd o ddiddordeb: