Carcharu cefnogwyr pêl-droed am ymladd mewn tafarn
- Cyhoeddwyd
Mae dau griw o gefnogwyr pêl-droed wedi'u dedfrydu am ffrwgwd yn dilyn gêm yng Nghaerdydd ym mis Awst 2017.
Mae 13 dyn wedi eu dedfrydu ar ôl i griw o gefnogwyr Aston Villa ymosod ar gefnogwyr oedd yn nhafarn y Cornwall yng Nghaerdydd.
Mae naw o'r rheiny wedi eu gwahardd rhag mynychu gemau unrhyw le yn y DU am chwe blynedd.
Roedd tri o'r dynion yn gefnogwyr Caerdydd a deg ohonyn nhw yn gefnogwyr Aston Villa, ac maen nhw i gyd wedi'i dedfrydu rhwng naw mis a thair blynedd.
Fe wnaeth rhai gyfaddef i achosi ffrwgwd ac fe gafodd y gweddill eu canfod yn euog mewn achosion ym mis Hydref a Thachwedd.
'Ffrwgwd difrifol'
Clywodd y llys fod grŵp o gefnogwyr Aston Villa wedi gyrru i dafarn y Cornwall ar ôl i'r gêm rhwng y ddau glwb ddod i ben.
Fe gerddon nhw tuag at y dafarn ac ymosod ar gefnogwr Caerdydd a oedd yn ceisio mynd i mewn. Roedd yna ymladd y tu mewn a'r tu allan i'r dafarn.
Yn ystod y gwrandawiad dedfrydu dywedodd y barnwr Neil Bidder QC fod y digwyddiad yn enghraifft o "ffrwgwd difrifol" a roddodd bobl oedrannus a phlant oedd yn bwyta yn y dafarn dan fygythiad.
Bydd tri o'r diffynyddion yn cael eu dedfrydu yn ddiweddarach.