Ffermwr y Gogarth wedi'i gyhuddo o esgeuluso anifeiliaid
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwr gafodd ei ddewis o 2,500 o ymgeiswyr i redeg Fferm y Parc ar y Gogarth yn Llandudno wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o droseddau'n ymwneud ag esgeuluso anifeiliaid.
Cafodd Daniel Jones, 40 oed o Langristiolus ar Ynys Môn, ei ddewis yn 2016 i redeg y fferm 145 erw gwerth £1m am rent o £1 y flwyddyn.
Fe wnaeth Mr Jones ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Mawrth i wynebu 20 cyhuddiad - rhai yn ymwneud â throseddau honedig yn fuan wedi iddo symud i'r fferm ar y Gogarth.
Mae Mr Jones yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.
'Peidio cael gwared ar gyrff'
Mae'r cyhuddiadau yn cynnwys peidio cael gwared ar gyrff defaid oedd wedi marw a pheidio sicrhau nad oedd adar ac anifeiliaid eraill yn gallu amharu ar y cyrff hynny.
Mae hefyd wedi'i gyhuddo o beidio cadw cofrestr fanwl o'r anifeiliaid ac o atal person oedd wedi dod i archwilio'r fferm rhag cael mynediad.
Roedd 2,500 o bobl wedi ymgeisio am y cyfle i rentu'r fferm gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a Mr Jones a'i deulu gafodd eu dewis.
Dywedodd yr ymddiriedolaeth bryd hynny bod Mr Jones wedi cael ei ddewis "yn dilyn profion o'i sgiliau bugeilio ac asesiad o'i gynllun busnes ar gyfer y fferm".
Bydd Mr Jones yn ymddangos yn y llys y tro nesaf ar 28 Ionawr.