'Angen cynnwys lleisiau pobl ifanc mewn gwleidyddiaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid rhoi'r cyfle i bobl ifanc helpu gwleidyddion "i wneud penderfyniadau gwell", yn ôl Comisiynydd Plant Cymru.
Dywedodd Sally Holland nad yw pobl ifanc yn teimlo fod y rhai mewn pŵer "yn cyrraedd y mwyafrif ohonynt".
Daeth y sylwadau ar ôl i ddeiseb, sy'n cynnwys 4,200 enw, gael ei gyflwyno i'r Cynulliad yn galw arnynt i'w gwneud hi'n orfodol i gynghorau gydweithio â phobl ifanc ar amrywiaeth o wasanaethau.
Yn ôl cynghorydd tref 'fengaf Cymru, Geraint Nicholson, mae o'n teimlo ei fod "ar yr ymylon".
"Wrth drafod bwrw pleidlais, nid yw pobl ifanc eisiau gwybod am yr hyn mae'r pleidiau gwahanol yn ei gynrychioli, maen nhw'n cyfleu neges glir i ni eu bod nhw am wybod mwy," meddai Dr Holland.
Fe gyfeiriodd y Comisiynydd at gynlluniau i leihau'r oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau'r Cynulliad i 16 - rhywbeth a gafodd ei gefnogi fel deddfwriaeth posib 'nôl ym mis Hydref.
Ychwanegodd Dr Holland y byddai hyn yn gorfodi gwleidyddion i ystyried daliadau pobl ifanc.
'Amharch tanseiliol'
Daeth Mr Nicholson, sydd bellach yn 20 oed, yn aelod o Gyngor Tref Pontardawe yn 18 oed.
Dywedodd ei fod wedi wynebu "amharch tanseiliol" gan gynghorwyr hŷn o ganlyniad i'w oedran.
"Gwelwn anwybodaeth o ran safbwyntiau pobl ifanc, yn enwedig yn y cabinet. Dydw i dal heb weld rhywun yn cynrychioli'r ifanc ar y cyngor sir."
Ychwanegodd fod angen mwy o ffocws ar wleidyddiaeth mewn ysgolion gan fod cymaint o "wybodaeth anghywir" yn bodoli ynghylch y pleidiau gwleidyddol.
'Angen llais'
Dros y mis diwethaf, fe bleidleisiodd bron i 8,000 o bobl rhwng 11-18 oed yn etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru, gyda 60 cynrychiolydd yn cael eu cyhoeddi.
Ond, yn ôl un mudiad nid yw fforymau ieuenctid, fel Senedd ieuenctid Cymru a fforymau sy'n cael eu harwain gan awdurdodau lleol, yn "gynrychiolaidd".
Dywedodd gwirfoddolwyr o Changing Minds Casnewydd, a gyflwynodd y ddeiseb i'r Cynulliad, fod rhai grwpiau ymylol - gan gynnwys plant sydd â phroblemau iechyd meddwl a phlant o leiafrifoedd ethnig - "angen llais".
"Mae nifer o bobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl yn ei gweld hi'n anodd mynegi eu hunain... felly mae hi'n anodd iddyn nhw ddod yn eu blaenau i drafod materion a phethau eraill y hoffent eu gweld yn newid," meddai Gethin, 15 oed.
Meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae hi'n hanfodol ein bod ni'n gwrando ar safbwyntiau a syniadau ein pobl ifanc, er mwyn deall be sy'n bwysig iddyn nhw ac er mwyn sicrhau bod ein cenhedlaeth nesaf o bleidleiswyr yn barod i fod yn rhan o ddemocratiaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd28 Awst 2018