Aberfan a lleoliadau Twristiaeth Dywyll y byd
- Cyhoeddwyd
Heulwen, tywod a phwll nofio - y cynhwysion a'r ddelwedd a gawn o'r gwyliau perffaith yn aml.
Ond mae mwy a mwy o bobl yn mynd am wyliau amgen a 'gwahanol' iawn. Nid sôn am wyliau antur neu deithio a chrwydro gwledydd ydan ni chwaith.
Mae yna fath newydd o ymwelwyr yn chwilio am brofiadau ac emosiwn yn hytrach nag atgofion melys.
Pobl ydi'r rhain sy'n dewis mynd i lefydd sydd â chysylltiad ag angau a marwolaeth. Dyma'r 'twrist tywyll' a'u pethau nhw ydi ymweld â llefydd sydd ar restr gydnabyddedig yn ymwneud â Thwristiaeth Dywyll.
Yn ôl ystadegau gan gan y cwmni teithio Kiwi.com mae cynnydd yn y nifer o bobl sy'n ymweld â lleoliadau sydd â hanes macabr, trist a sinistr.
Mae'r atyniadau hyn fel arfer yn troi o amgylch llofruddiaeth, rhyfel neu drychineb erchyll a bellach mae un lle yng Nghymru wedi cyrraedd rhestr o lefydd sy'n cael eu hadnabod.
Yn barod ar restr teithiau tywyll mae:
Auschwitz Birkenau, Gwlad Pwyl
Ground Zero, Efrog Newydd
Chernobyl, Yr Wcráin
Hiroshima a Nagasaki, Siapan
Amgueddfa Tuol Sleng, Cambodia (lle lladdwyd 12,000 o bobl gan y Khmer Rouge
Majdanek, Gwlad Pwyl - camp rhyfel
Cyn-safle 25 Cromwell Street (cartref y llofruddwyr Fred a Rose West)
Oradour-sur-Glane, Ffrainc
Ond bellach mae Cymru ar fap yr ymwelwyr 'tywyll' hyn wrth i drasiedi enfawr Aberfan a beddau'r rhai a laddwyd yn y drychineb gael sylw ar wefannau Twristiaeth Dywyll ledled y byd.
Mae ymchwil Kiwi.com yn dangos twf yn nifer y teithwyr o Brydain sy'n chwilio am wyliau sy'n cynnig teithiau i lefydd â chysylltiad â dioddefaint.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae'r nifer o deithiau awyren i lefydd agos i leoliadau trist wedi treblu.
Y Cymry a'r 'teithiau tywyll'
Mae'r data yn honni bod teithwyr o Gymru ar frig y rhestr o deithwyr o Brydain sy'n chwilio am wyliau macâbr gydag ehediadau i fannau sinistr a thrist wedi cynyddu 585%.
Y lle mwyaf poblogaidd ganddynt yn ôl y data yw Auschwitz.
Mae Twm Jones, o Lannerch-y-Medd, Ynys Môn newydd ddychwelyd o wersyll rhyfel Auschwitz Birkenau.
"Mi oedd yn brofiad hollol ddirdynnol," meddai.
"Do' ni ddim yn edrych ymlaen at fynd ond yn teimlo fod yn ddyletswydd mynd i weld be oedd cyd-ddyn yn medru ei wneud.
"Mi ysgytiodd fi i lawr i fy ngwreiddiau. Methu credu bod cyd-ddyn yn medru bod mor greulon a dideimlad a scale y lladd a'r peth mor fecanyddol.
"Profiad uffernol ond hollol angenrheidiol. Mae rhywun yn cael persbectif gwahanol iawn ar fywyd ar ôl bod."
Ers yn blentyn mae gan Twm Jones, sy'n wreiddiol o Lanuwchllyn, ddiddordeb byw yn yr Ail Ryfel Byd, World at War ac unrhywbeth yn ymwneud â'r rhyfel.
Felly dyna mae o'n teimlo sydd wedi ei ddenu i fynd i Auschwitz.
"Lle ydi o, nad oes neb eisiau mynd, ond lle sydd yn rhaid mynd iddo, jest unwaith," meddai'r nyrs iechyd meddwl dementia.
Pam ei fod yn meddwl bod pobl eisiau mynd i lefydd mor 'dywyll' eu naws yn y lle cyntaf?
"Mae o wedi fy newid i fel dyn, cael mynd i'r fath le ac mae o'n rhoi bywyd chdi dy hun mewn cyd-destun, jest gweld y stark reality a'r fath erchylldera.
"Mae pobl ella yn chwilio am rywbeth i roi eu bywyd nhw eu hunain mewn cyd-destun ac ella dyna pam maen nhw'n mynd.
"Jest profiad hollol wahanol, lle ti'n teimlo'r angen i fynd i reflection. Math o 'wyliau' ydi o, ond doedd o ddim yn addas tynnu lluniau a selfies.
"Mae'r hyn wnes i brofi yno wedi 'neud y fath argraff arna i, a nai fyth, fyth anghofio.
"Ddim angen llun camera i gofio y 46,000 o bara o esgidiau'r plant, y saith tunnell o wallt, y miloedd o sbectolau... doedd o jest ddim yn briodol o gwbl i dynnu llun fel bysa rhywun fel arfer."
Efallai hefyd o ddiddordeb: