Ceredigion: Disgwyl cefnu ar gynllun i gau ysgolion cynradd

Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn yw un o'r ysgolion sydd â'i dyfodol yn y fantol
- Cyhoeddwyd
Mae’n ymddangos na fydd pedair ysgol gynradd wledig yng Ngheredigion yn cau'r flwyddyn nesaf ar ôl i’r cyngor dderbyn her ffurfiol i’r cynnig i beidio â’u hariannu ar ôl y flwyddyn academaidd bresennol.
Mae dyfodol pedair ysgol wedi bod o dan ystyriaeth - ym mhentrefi'r Borth, Llangwyryfon, Llanfihangel-y-Creuddyn a Phonterwyd.
Ond mae papurau cabinet y cyngor ar gyfer eu cyfarfod ddydd Mawrth nesaf, dolen allanol yn awgrymu nad yw'r cynllun gwreiddiol i gau'r ysgolion erbyn 31 Awst 2025 yn "gyraeddadwy" ac y dylid trin yr ymgynghoriad statudol presennol fel un "anffurfiol ar ad-drefnu a dyfodol yr ysgolion".
Wrth ymateb, dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod yn derbyn nad yw'r amserlen gyfredol ar gyfer y broses ad-drefnu "yn un y gellir ei chyflawni", a'u bod am "ddadansoddi'n briodol" wedi'r ymgynghori anffurfiol.
- Cyhoeddwyd3 Medi 2024
- Cyhoeddwyd1 Mai 2024
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2024
Ysgol Craig yr Wylfa, Borth, Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn, Ysgol Syr John Rhys, Ponterwyd ac Ysgol Llangwyryfon oedd yr ysgolion oedd yn destun ymgynghoriad.
Ym mis Medi fe wnaeth y cyngor sir gymeradwyo dechrau proses ymgynghori ar y posibilrwydd o gau'r ysgolion - gan ddweud mai niferoedd isel o ddisgyblion a dyletswydd i wneud arbedion oedd wrth wraidd y penderfyniad.
Yn ôl adroddiadau i gabinet y cyngor, mae ffigyrau'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) yn awgrymu bod nifer y plant yn yr ysgolion wedi gostwng ers 2020, tra'u bod yn rhagweld cwymp pellach yn y dyfodol.
Ond roedd ymateb chwyrn i'r cynlluniau yn lleol, gydag ymgyrchwyr yn dadlau bod yr ysgolion yn ganolog i'w cymunedau.

Bu nifer o ymgyrchwyr yn protestio yn erbyn y cynlluniau i gau'r ysgolion
Mae papurau'r cabinet yn nodi fod yr awdurdod lleol wedi derbyn her ffurfiol i'r cynlluniau i gynnal ymgynghoriad statudol ar 19 Tachwedd.
O ganlyniad, fe fydd y cabinet yn ystyried a oes angen diwygio'r penderfyniad i gynnal ymgynghoriad statudol er mwyn gwneud "y broses bresennol yn un o gyfnod ymgynghori anffurfiol er mwyn casglu rhagor o wybodaeth".
Ychwanega'r dogfennau: "Bydd yr ymatebion a dderbynnir yn ystod y cyfnod ymgynghori anffurfiol yn cael eu dadansoddi'n briodol, a bydd unrhyw argymhellion o ymgynghoriad statudol yn y dyfodol, ac asesiadau yn cael eu paratoi a'u cwblhau mewn dull cynhwysfawr.
Bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r cabinet “maes o law”.
Amserlen ddim yn 'gyraeddadwy'
Mae'r adroddiad, a fydd yn cael ei drafod gan y Cabinet ddydd Mawrth, yn dweud nad yw "peidio â chynnal yr ysgolion o 31 Awst 2025 yn opsiwn, ac nid yw'r amserlen yn gyraeddadwy.”
"Derbynnir nad yw’r amserlen gyfredol ar gyfer y broses ad-drefnu yn un y gellir ei chyflawni."
Os yw aelodau’r cabinet yn cefnogi’r argymhellion, mae’n golygu na fydd yr ysgolion yn cau'r flwyddyn nesaf.
Mae’r adroddiad hefyd yn nodi’r risg y gallai’r cyngor wynebu her gyfreithiol os yw’n bwrw ymlaen gyda’r ymgynghoriad statudol.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r tro pedol posib gan ddisgrifio llywodraethwyr a rhieni'r pedair ysgol fel "ysbrydoliaeth i gymunedau ar draws Cymru ac esiampl wych i'r plant".
Dywedodd Cyngor Ceredigion: "Gofynnir i’r Cabinet ailystyried y penderfyniad i gymeradwyo'r cynnig i ddechrau ar y broses o gynnal ymgynghoriad statudol er mwyn dod i ben â’r ddarpariaeth yn y bedair Ysgol o 31 Awst 2025.
"Yn dilyn sialens ffurfiol i’r amserlen a chynnwys y ddogfen ymgynghori a’r asesiadau effaith gysylltiedig, derbynnir nad yw’r amserlen gyfredol ar gyfer y broses ad-drefnu yn un y gellir ei chyflawni.
"Mi fydd yr ymatebion a dderbynnir yn ystod y cyfnod ymgynghori anffurfiol yn cael eu dadansoddi'n briodol, a bydd unrhyw argymhellion o ymgynghoriad statudol yn y dyfodol, ac asesiadau yn cael eu paratoi a'u cwblhau mewn dull cynhwysfawr."