Cymru ar waelod tabl economaidd y DU unwaith eto

  • Cyhoeddwyd
Ynys MônFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ynys Môn sydd â'r GVA isaf o ardaloedd yng Nghymru

Mae Cymru'n parhau y wlad leiaf cynhyrchiol yn economaidd yn y DU, yn ôl tabl swyddogol sy'n mesur cryfder yr economi.

Mae'r ffigyrau gwerth ychwanegol gros rhanbarthol (GVA) yn dangos bod gweithwyr yng Nghymru wedi cynhyrchu £19,899 yr un i'r economi ar gyfartaledd.

Er bod hyn yn dwf o 2.7% ers 2017, roedd hynny'n dwf arafach nag yn Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Y twf ar gyfartaledd ledled y DU oedd 3%.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi'r ffigyrau ar gyfer Cymru yn flynyddol, ac maen nhw'n datgelu sut mae gwahanol ardaloedd yn ei wneud o ran safonau bwy a chyfleoedd eraill.

Ynys Môn sydd â'r GVA isaf o ardaloedd yng Nghymru - £13,957 y pen ar gyfartaledd - ond mae'r sir wedi codi oddi ar waelod y tabl ledled y DU.

Mae ardal Gwent hefyd yn y 10 isaf ledled y DU, gyda GVA o £15,062 y pen ar gyfartaledd.