Ymchwil i effaith llygredd golau ar greaduriaid y môr

  • Cyhoeddwyd
Llygredd golau yn ardal Aber Tamar, PlymouthFfynhonnell y llun, Hannah Guy

Mae Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn arwain prosiect mawr cyntaf y DU i ddysgu sut mae llygredd golau yn dylanwadu ar greaduriaid y môr.

Gwella'r ddealltwriaeth o effaith ecolegol trefi a dinasoedd arfordirol yw nod y prosiect pedair blynedd ALICE (Artificial Light Impacts on Coastal Ecosystems).

Bydd ymchwilwyr yn dadansoddi sut y gall llygredd golau newid ymddygiad nifer o greaduriaid ar hyd y glannau.

Byddant yn edrych yn benodol ar eu harferion ymgartrefu, bwyta ac atgenhedlu.

Dywedodd prif ymchwilydd y prosiect, Dr Thomas Davies: "Mae potensial mawr i olau artiffisial o'n dinasoedd arfordirol, porthladdoedd, harbwrs a marinas ymyrryd â chylchoedd golau naturiol, ac ymddygiad yr anifeiliaid môr hynny sy'n dibynnu ar eu canfod."

Mae golau o ffynonellau o'r fath, meddai, eisoes "uwchben 22% o arfordiroedd y byd bob nos" ac mae'r ardaloedd hyn "yn debygol o dyfu hyd yn oed ymhellach, gan fod canolfannau poblogaeth arfordirol yn debygol o ddyblu erbyn 2060".

'Sensitif i oleuni'

Yn ôl yr ymchwilwyr fe fydd casgliadau gwaith labordy - sy'n efelychu effaith gwahanol lefelau o olau - yn rhoi darlun o newidiadau tebygol ar gynefinoedd arfordirol yn y 50 mlynedd nesaf os na fydd camau pendant i gwtogi llygredd golau.

"Gwyddom fod llawer o greaduriaid môr ger yr arfordir yn hynod o sensitif i oleuni, ac maent wedi ymaddasu fel bod cylchoedd golau'r lleuad yn effeithio ar wahanol agweddau ar eu bywydau," meddai Dr Davies, sydd hefyd yn cydweithio'n agos â phrosiectau Awyr Dywyll yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Hannah Guy

Ychwanegodd: "Gall goleuadau nos sy'n dod o borthladdoedd a harbwrs effeithio ar holl gyfnodau bywyd infertebratau môr.

"Gall yr effeithiau uniongyrchol hyn ar ymddygiad rhai infertebratau arfordirol effeithio'n anuniongyrchol ar rywogaethau eraill mewn cadwyni bwyd arfordirol, gan newid strwythur ecosystem."

Mae prosiect ALICE ymhlith 14 sy'n derbyn cyfanswm o £24m gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) fel rhan o gynllun sy'n ariannu ymchwil newydd i faterion amgylcheddol o bwys.

Hefyd yn rhan o'r prosiect mae arbenigwyr o Labordy Môr Plymouth a Phrifysgolion Southampton a Strathclyde sy'n cael eu hystyried yn flaenllaw ar lefel ryngwladol mewn meysydd yn cynnwys llygredd golau ecolegol a bioleg môr drofannol.