Ymwelwyr yn heidio i weld aderyn prin yn Y Rhyl

  • Cyhoeddwyd
Gwyach GorniogFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Ddinbych
Disgrifiad o’r llun,

Dywedir bod yr wyach gorniog yn aderyn carismataidd iawn

Mae aderyn prin wedi creu cynnwrf ymhlith adarwyr ar ôl ymgartrefu mewn gwarchodfa natur yn y Y Rhyl.

Mae'r wyach gorniog wedi cael ei gweld ym Mhwll Brickfield - gwarchodfa a grewyd o hen bwll clai gwaith brics.

Mae'r aderyn ar restr goch y Gymdeithas Gwarchod Adar (RSPB) sef y rhywogaethau sydd dan y mwyaf o fygythiad.

Dim ond 30 pâr o wyachod corniog sydd yng ngweddill Prydain - y cyfan yn Yr Alban.

Ymweliad pwysig

Mae'r warchodfa yn cael ei rheoli gan wasanaeth cefn gwlad Cyngor Sir Ddinbych.

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, sydd â chyfrifoldeb dros faterion amgylcheddol ar y cyngor: "Mae'n wych gweld aderyn mor brin â'r wyach gorniog yn ymgartrefu yma yn Sir Ddinbych.

"Mae'r ymweliad yn fwy pwysig gan fod disgwyl gostyngiad pellach yn y boblogaeth o ganlyniad i golled yng ngwlypdiroedd Prydain.

"Mae Pwll Brickfield yn hafan i fywyd gwyllt yng nghanol Y Rhyl ac mae'r Gwasanaeth Cefn Gwlad wedi bod yn gwarchod cynefinoedd yno ers 1996, ac wedi trawsnewid y safle o fod yn adfail i fod yn warchodfa natur hynod bwysig a hoffwn ddiolch i'r tîm am eu gwaith caled.

"Mae hyn yn rhan o'n blaenoriaeth gorfforaethol i wella amgylchfyd y sir".

Denu ymwelwyr

Cafodd yr wyach ei gweld gyntaf gan adarwr ac mae'r diddordeb wedi denu ymwelwyr o bell ac agos, yn dilyn sylw ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych wedi bod yn cadw llygad ar yr aderyn ac mewn cysylltiad cyson gydag adarwyr lleol.

Mae'r wyach gorniog yn un o'r adar mwyaf carismataidd, ac yn y gaeaf maent yn cael eu gweld o gwmpas arfordiroedd Prydain, yn bennaf yn Yr Alban a Sussex.

Dywed y Cyngor bod y gwaith plannu brwyn ym Mhwll Brickfield wedi creu hafan berffaith ar gyfer pysgod bychain a phryfetach, sef hoff fwyd yr wyach gorniog.