Apêl heddlu wedi i drên ar daith Nadolig daro cŵn hela
- Cyhoeddwyd

Yn ôl y rheilffordd roedd nifer o deuluoedd a phlant ifanc ar y trên pan darodd yn erbyn y cŵn
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio am dystion ar ôl i drên oedd ar daith Nadoligaidd ar Reilffordd Llangollen daro haid o gŵn hela.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Corwen a Llangollen ddydd Sul wrth i'r trên gludo teuluoedd o ymweliad i groto Siôn Corn yng Ngharrog.
Roedd adroddiadau bod y cŵn yn rhan o helfa leol, ac mae'r heddlu'n ceisio adnabod pwy oedd yn gyfrifol am y digwyddiad hwnnw.
Dywedodd y rheilffordd ar y pryd nad oedd gan yr helfa ganiatâd i fod ar y traciau, a'u bod nhw hefyd wedi dechrau ymchwiliad mewnol i'r digwyddiad.

Mae Rheilffordd Llangollen yn rhedeg rhwng Llangollen a Chorwen
"Rydyn ni wedi cael datganiadau gan staff y rheilffordd ac rydyn ni'n ceisio dod o hyd i ragor o dystion," meddai'r Arolygydd Rob Sands o Heddlu Gogledd Cymru.
"Mae ein hymchwiliad yn parhau i adnabod y rheiny oedd â rheolaeth o'r cŵn ar adeg y gwrthdrawiad."
'Taro o leiaf un o'r cŵn'
Dywedodd rheolwr busnes Rheilffordd Llangollen, Liz McGuinness ddechrau'r wythnos: "O beth dwi'n deall roedd aelodau o helfa leol rhywle yn agos ar y llinell pan wnaeth o leiaf un o'r cŵn redeg ar y traciau tuag at drên oedd yn cario nifer o deithwyr - gan gynnwys plant ifanc - oedd yn mwynhau diwrnod allan Nadoligaidd.
"Dwi'n deall fod y trên wedi taro o leiaf un o'r cŵn. Dwi ddim yn siŵr a hyn o bryd pa mor wael y cafodd yr anifail ei anafu, ond fe wnaeth aelodau'r helfa ddod i gludo'r anifail neu anifeiliaid i ffwrdd."
Ychwanegodd nad oedd unrhyw un ar y trên wedi eu hanafu ond bod "y gyrrwr a'r criw yn amlwg wedi'u hysgwyd gan y digwyddiad anffodus".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2018