Galw am 'Uwchgynhadledd y Cenhedloedd'
- Cyhoeddwyd
Yn ôl Plaid Cymru mae angen "Uwchgynhadledd y Cenhedloedd" er mwyn dod o hyd i ffordd ymlaen ar Brexit.
Dywedodd Steffan Lewis, llefarydd Plaid Cymru ar faterion allanol, y gallai uwchgynhadledd fod yn ffordd i ddatrys yr argyfwng gwleidyddol.
Yn ôl Mr Lewis: "Fe allai pedair cenedl y DU gytuno consensws ar y ffordd ymlaen yn seiliedig ar gynnig ymreolaeth i bawb, atal Brexit rhag cael ei ddefnyddio i gipio pwerau, a chytundeb i Brydain aros yn y farchnad sengl a'r undeb tollau.
"Gallai'r uwchgynhadledd roi mandad i'r Prif Weinidog ymestyn proses erthygl 50 er mwyn cael rhagor o amser i weithredu cynllun sydd â chefnogaeth yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon."
Awgrymodd Mr Lewis y gallai pleidiau o bob un o sefydliadau datganoledig a Senedd y DU gwrdd yr wythnos nesaf er mwyn cytuno ar gonsensws, a fyddai wedyn yn cael ei gyflwyno i ASau ar gyfer pleidlais.
Yn ôl llefarydd Plaid Cymru fe ddylai cynrychiolwyr o bleidiau gan gynnwys y DUP a Sinn Féin yng Ngogledd Iwerddon a UKIP o'r Cynulliad gael eu cynnwys yn ogystal â Phrif Weinidogion Cymru, Yr Alban a'r Prif Weinidog Theresa May.
Cyfarfod 'lefel uchaf'
Fe ddaw'r alwad wrth i gynlluniau Brexit Mrs May wynebu trafferthion sylweddol.
Mae arweinwyr gwledydd yr UE wedi dweud na fydd hi'n bosib ail-negodi'r cytundeb i adael yr UE - hynny ar ôl i Aelodau Seneddol awgrymu nad oedd cefnogaeth i'r cynllun yn Nhŷ'r Cyffredin.
Mewn ymateb i'r syniad dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cefnogi yn gadarn cynnig yn y Cynulliad Cenedlaethol yr wythnos ddiwetha', a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, sy'n galw ar lywodraeth y DU i gynnig cytundeb sydd yn cynnwys mynediad i'r farchnad sengl ac undeb y tollau, tra yn galw hefyd am ymestyn amserlen erthygl 50.
"Fe ddylai llywodraeth y DU weithio'n agosach o lawer a'r llywodraethau datganoledig, ac rydym yn disgwyl cyfarfod ar y lefel uchaf yn fuan."