Hwyluso gwasanaethau i bobl fyddar yn Sir Conwy
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Conwy yn gobeithio gwneud hi'n haws i bobl fyddar gysylltu â nhw trwy lansio gwasanaeth dehongli fideo newydd.
Mae'r cynllun peilot 'InterpretersLive!' yn golygu bod cwsmeriaid byddar sy'n cyfathrebu drwy ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn gallu cysylltu â'r cyngor drwy ddehonglydd BSL.
Bydd gan ymwelwyr â phrif swyddfeydd y cyngor ym Mae Colwyn, Conwy a Mochdre fynediad ar unwaith at ddehonglydd BSL ar sgrin heb fod angen gwneud apwyntiad ymlaen llaw.
Mae cynlluniau ar y gweill i gyflwyno'r gwasanaeth yn adeiladau eraill y cyngor yn 2019.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor y bydd modd i bobl sydd ddim yn dymuno teithio, neu'n methu teithio, ddefnyddio'r gwasanaeth wyneb yn wyneb o'u cartref, gan ddefnyddio system trosglwyddo fideo.
'Pwysig teimlo'n hydreus'
Yn ôl y Cynghorydd Frank Bradfield, Cefnogwr Anableddau'r Cyngor mae'r awdurdod wedi ymroddi i adolygu'r ffyrdd y mae'n cyfathrebu a gweithio gyda chymunedau, gan anelu at "fod yn flaengar, cyfoes ac effeithlon".
Dywedodd: "Bydd y cynllun peilot hwn yn rhoi cyfle i gymuned fyddar y sir gyfathrebu â ni mewn modd cyfoes, ochr yn ochr â'n sianeli eraill megis ffôn testun, sesiynau dehongli wyneb yn wyneb bob pythefnos, a'n gwefan."
Bydd y cynllun peilot yn para am 12 mis a bydd yn cael ei werthuso gan pobl fyddar y sir.
Dywedodd Sean Nicholson, Prif Swyddog Gweithredol Sign Solutions sydd wedi datblygu'r cyfarfpar: "Rwy'n falch fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyflwyno'r mentrau hyn.
"Mae'n bwysig bod pobl fyddar yn teimlo'n hyderus wrth dderbyn mynediad i'r ystod gyfan o wasanaethau cyngor, ac mae'r gallu i wneud galwad o'u cartrefi gan ddefnyddio'r gwasanaeth trosglwyddo fideo yn golygu bod gwir gydraddoldeb."
Mae mwy o fanylion am y gwasnaeth yma, dolen allanol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2018