Negeseuon Nadolig 2018 gan ffigyrau amlwg Cymru a thu hwnt
- Cyhoeddwyd
Dyma'r cyfnod o'r flwyddyn lle mae ffigyrau amlwg ym mywyd cyhoeddus yn cyhoeddi negeseuon yr ŵyl sy'n edrych yn ôl dros y 12 mis diwethaf ac ymlaen i'r flwyddyn newydd.
Un peth sy'n clymu nifer yw'r awydd i bobl gymryd amser i'w hunain dros yr ŵyl - cyfnod all fod yn un anodd yn ariannol ac yn feddyliol i nifer.
Galwad i 'uno'n gwlad'
Yn ei neges Nadolig cyntaf ers cael ei benodi'n Brif Weinidog Cymru ddechrau'r mis, galwad i "uno'n gwlad ac osgoi rhaniadau pellach" yn sgil Brexit a ddaw gan Mark Drakeford.
"Rydyn ni wedi cael sawl rheswm i ddathlu yn 2018, o'r digwyddiadau arbennig i nodi 70 mlwyddiant ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol i fuddugoliaeth anhygoel Geraint Thomas yn y Tour de France," meddai.
"Fe gafwyd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn seremonïau teimladwy yng Nghymru, Ffrainc a Gwlad Belg i goffau canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
"Wrth edrych yn ôl, does dim modd anwybyddu methiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau cytundeb Brexit derbyniol.
"Fe fydd y flwyddyn newydd yn llawn ansicrwydd, ond byddwn ni'n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu swyddi Cymru, cefnogi ein heconomi a diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus yn y cyfnod anodd sydd ohoni.
"Mae'n bwysig i ni i gyd gydnabod y rôl y gall bob un ohonom ni ei chwarae i uno'n gwlad ac osgoi rhaniadau pellach - boed yn ein cymunedau neu hyd yn oed o fewn ein teuluoedd ein hunain."
'Pwyllo ar gyfryngau cymdeithasol'
Yn ei neges ef mae Archesgob Cymru, y Parchedicaf John Davies yn canolbwyntio ar y pwysau y mae cyfryngau cymdeithasol yn gallu ei osod ar bobl ifanc.
Dywedodd ei fod yn rhan o rôl yr Eglwys i "siarad am yr hyn sy'n gwneud niwed i gymdeithas".
"Mae rhywun yn synnu ar lefelau problemau iechyd meddwl a phwysau mae pobl yn ei wynebu, ond yr hyn sy'n achosi rhagor o bryder yw'r effaith mae'n ei gael ar yr ifanc," meddai.
"Mae pwysau arnyn nhw i lwyddo yn eu haddysg. Mae pwysau arnyn nhw trwy'r cyfryngau cymdeithasol.
"Mae'n ffordd o gysylltu â phobl, ond fel llawer o bethau eraill, gall fod yn dda neu'n ddrwg, gyda nifer yn dioddef gyda bwlio ar wefannau o'r fath.
"Rôl yr Eglwys yw siarad am yr hyn sy'n gwneud niwed i gymdeithas a niweidio bywydau pobl, ac mae angen pwyllo weithiau."
'Troi dieithryn yn ffrind'
Neges i groesawu pobl ddieithr a ddaw gan Esgob Tyddewi, Joanna Penberthy yn ei neges hi eleni.
Heb groeso o'r fath, dywedodd y gallai gwaith Iesu Grist fod wedi "dod i ben cyn iddo ddechrau".
"Gadewch i ni gofio, heb y croeso yma ar dir dieithr, gallai gwaith yr Iesu fod wedi dod i ben cyn iddo ddechrau," meddai.
"Wrth i ni ddathlu'r Nadolig eleni, gadewch i ni gofio'r bobl ddieithr a'r ffoaduriaid yn ein plith - rheiny sydd wedi dod yma i ganfod lloches a bywyd newydd - a gadewch i ni gael y dewrder i droi dieithryn yn ffrind."
'Angen goddefgarwch yn sgil Brexit'
Mae'r Nadolig yn dymor ewyllys da, ond mae chwerwder am Brexit wedi suro'r awyrgylch eleni, yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, y Parchedig Dyfrig Rees.
"Mae angen goddefgarwch i ostwng y tensiwn gwleidyddol a chyhoeddus presennol," meddai.
"Rhaid i ni beidio â chaniatáu i'r ddadl am adael yr Undeb Ewropeaidd achosi dicter cyhoeddus parhaol neu achosi niwed difrifol i'n perthynas â'n cymdogion Ewropeaidd.
"Beth bynnag fydd statws y berthynas honno erbyn diwedd y broses gyfredol, rhaid iddi barhau i fod yn un gyfeillgar.
"Rhaid i ni gofio mai gadael yr Undeb Ewropeaidd y byddwn, nid gadael Ewrop."
'Arian yn ffynhonnell poen a daioni'
Yn ei neges Nadolig ef mae Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andrew John yn tynnu sylw at y gwario ariannol dros y cyfnod yma, sy'n "ffynhonnell poen yn ogystal â daioni".
"Mae materion ariannol wedi dod yn gryf i ffocws eto wrth i'r flwyddyn ddod i ben," meddai.
"Mae penderfyniad y llywodraeth i ddod â chynlluniau ymlaen i newid yr arian betio mwyafsymiol mewn terfynellfeydd betio ods gosodedig yn ein hatgoffa y gall y defnydd o arian fod yn ffynhonnell poen yn ogystal â daioni.
"Mae safbwynt y Cristion ar arian yn aml wedi ei gamddehongli: nid yw'r Beibl yn dweud mai arian yw gwraidd pob drwg ond yn hytrach mai cariad at arian yw gwraidd pob math o ddrygioni.
"Mae arian yn cynorthwyo i amddiffyn y mwyaf bregus mewn cymdeithas tra bo rhoi gwerth iddo uwchlaw popeth arall yn gallu arwain at lu o broblemau o ddyled i ecsbloetio.
"Mae'r gân, yn rhyfeddol, yn dweud rhywbeth pwysig: y gwirionedd yw bod ar bawb angen arian i fyw. A dyna'r anogaeth i haelioni - y gair 'pawb' hwnnw.
"Ac mae hynny'n golygu rhywbeth mwy a gwell a mwy anrhydeddus o lawer. Haelioni. Mae arnom angen haelioni. Megis haelioni Duw."
'Aros mewn tawelwch'
Apêl i gefnu ar brynwriaeth a chymryd amser i gael cyfnod tawel i fwynhau dathliadau'r ŵyl sydd gan y Pab Francis yn ei neges ef eleni.
"Neges y Nadolig yw ffafrio llais distaw Duw yn hytrach na sŵn prynwriaeth," meddai.
"Os ydyn ni'n gallu bod yn ddistaw wrth y crud fe fydd y Nadolig yn syrpréis i ni, gan gyflwyno rhywbeth na fyddwn wedi'i weld o'r blaen.
"Dyma gynnig y Nadolig yma; cymrwch eich amser - ewch cyn drama'r geni ac aros mewn tawelwch."
'Cariad a gobaith'
Y cyswllt rhwng pobl sy'n denu sylw Esgob Llanelwy, y Gwir Barchedig Gregory Cameron yn ei neges ef eleni.
"Mae Cristnogion yn credu bod Duw yn ceisio cysylltu â ni y Nadolig hwn," meddai.
"Os ydych chi'n mynd i'r Eglwys, fe wyddoch fod Iesu yn cael ei gyfarch mewn sawl ffordd: 'Y Bugail Da, Gwaredwr, Mab y Dyn'.
"Fodd bynnag, mae un o'r teitlau hyn yn cael ei gysylltu â'r Nadolig yn arbennig, wrth i ni ddarllen yn Efengyl Ioan mai Iesu yw 'Gair Duw': yn wir, mae'n ymgorffori Duw yn anfon neges atom ni.
"Wn i ddim pa negeseuon rydych chi'n gobeithio eu clywed y Nadolig hwn, pa un ai a ydych chi'n gobeithio y bydd un o'ch anwyliaid yn ysgrifennu atoch chi neu'n galw draw, ac a ydych chi'n chwilio am sicrwydd, cysur neu obaith.
"Ond mae fy ffydd yn dweud wrthyf fod Duw wedi anfon neges o gariad a gobaith atoch chi yn Iesu, a'm gweddi yw y bydd hon yn neges y bydd ei gwirionedd yn rhoi bendith newydd i chi yn ystod y cyfnod hwn."