Dyn yn pledio'n euog i achosi marwolaeth Carol Boardman
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr wedi cyfaddef iddo ladd mam y seiclwr Olympaidd Chris Boardman drwy yrru'n ddiofal, gan ei tharo pan oedd wedi syrthio oddi ar ei beic.
Bu farw Carol Boardman, 75 oed, diwrnod wedi i gerbyd Liam Rosney, 33 oed o Gei Connah, ei tharo ym mis Gorffennaf 2016.
Newidiodd Mr Rosney ei ble eiliadau cyn i'r achos ddechrau yn Llys y Goron y Wyddgrug ddydd Llun.
Plediodd yn euog i achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal. Roedd wedi, cyn hynny, wynebu cyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Cafwyd Mr Rosney a'i wraig, Victoria Rosney, yn ddieuog o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder ym mis Gorffennaf eleni.
Bydd Rosney'n cael ei ddedfrydu ar ddyddiad i'w bennu.