Sir Ddinbych i gasglu sbwriel yn fisol erbyn haf 2021

  • Cyhoeddwyd
Bin sbwrielFfynhonnell y llun, George Clerk

Mae cynghorwyr wedi cymeradwyo newidiadau sy'n golygu mai unwaith bob pedair wythnos y bydd biniau mwyafrif cartrefi Sir Ddinbych yn cael eu gwagio o haf 2021 ymlaen.

Mae Cyngor Sir Ddinbych hefyd yn trefnu casgliadau ychwanegol i annog trigolion i ailgylchu mwy wrth geisio cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru.

Dywed y cyngor mai "dim ond ychydig iawn o wastraff gweddilliol fydd yn cael ei greu" os fydd trigolion yn "defnyddio'r gwasanaeth ailgylchu yn gywir".

Mae disgwyl i'r cyfleusterau angenrheidiol i gefnogi'r trefniadau newydd fod mewn lle erbyn dechrau 2021, gyda'r bwriad o drosglwyddo pob rhan o'r sir i'r gwasanaeth newydd erbyn Gorffennaf 2021.

Biniau mwy

Mae'r newidiadau sydd wedi eu cymeradwyo yn cynnwys casgliadau wythnosol ar gyfer:

  • deunyddiau y mae modd eu hailgylchu fel papur, gwydr, caniau a phlastig;

  • cewynnau a nwyddau thebyg;

  • gwastraff bwyd.

Hefyd fe fydd yna gasgliad newydd pob pythefnos ar gyfer dillad ac eitemau trydanol bychan, a bydd modd i breswylwyr ofyn am gael biniau du mwy.

Dywed y cyngor y bydd pobl yn gallu creu "hyd yn oed mwy o le yn eu bin du trwy ddefnyddio'r gwasanaethau ailgylchu newydd ymyl y ffordd".

Disgrifiad o’r llun,

Mae casgliadau misol eisoes wedi eu cyflwyno yn Sir Conwy, sy'n ffinio â Sir Ddinbych

Mae'r cyngor eisoes wedi ymweld â gwahanol rannau o'r sir i drafod y trefniadau ac fe fydd ymgyrch wybodaeth bellach yn y misoedd nesaf,

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymroi i gyfrannu £7.9m at gostau sefydlu'r gwasanaeth newydd.

'Penderfyniad mawr'

Dywedodd yr aelod cabinet sy'n gyfrifol am faterion gwastraff ac ailgylchu, y Cynghorydd Brian Jones bod hwn "wedi bod yn benderfyniad mawr i'r cyngor", ac mai "rŵan mae'r gwaith caled yn cychwyn i baratoi ar gyfer y newidiadau".

"Rydym wedi cymryd sylw o'r sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad ac rydym am weithio i sicrhau bod y newid yn digwydd mor llyfn â phosib."

Ar hyn o bryd mae 64% o wastraff y sir yn cael ei ailgylchu. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o 70% erbyn 2025 ac mae disgwyl i hwnnw godi i 80% yn y dyfodol.

Cyngor Sir Conwy oedd yr awdurdod lleol cyntaf i gyflwyno casgliadau sbwriel misol.