Teithwyr i ddisgwyl oedi mawr dros y Nadolig

  • Cyhoeddwyd
M4 BrynglasFfynhonnell y llun, BBC news grab

Bydd y ffyrdd yn brysurach ddydd Mercher wrth i nifer deithio adref er mwyn dathlu'r Nadolig.

Mae Inrix yn rhagweld y bydd traffig ar hyd yr M4 ger Casnewydd, drwy dwneli Brynglas, ddwywaith ei hyd arferol am 17:00 ar brynhawn Mercher.

Bydd gwaith peiriannol hefyd yn effeithio ar y rhai sy'n dymuno teithio ar y trên yn ystod diwedd mis Rhagfyr.

Yn ogystal, mae maes awyr Caerdydd yn disgwyl 32,000 o deithwyr cyn diwedd ei dymor gwyliau prysuraf ers 2010.

17 munud ychwanegol

Pobl sy'n teithio adref ar gyfer y Nadolig, yn ogystal â'r teithwyr o ddydd i ddydd arferol, fydd yn gyfrifol am ychwanegu 17 munud i bob taith ar yr M4, gan wneud y ffordd 77% yn brysurach na'r arfer.

Bydd prysurdeb dydd Iau yn "ail agos" i'r dydd Mercher.

Disgrifiad o’r llun,

Mae teithwyr yn cael eu cynghori i drefnu eu teithiau ymhell o flaen llaw i osgoi oedi dros y Nadolig

Bydd gwaith cynnal a chadw dros yr ŵyl hefyd yn amharu ar deithiau nifer o drenau rhwng Nadolig a Chalan.

Ni fydd trenau rhwng Caergybi a Wrecsam yn rhedeg ar Noswyl Nadolig, 27 Rhagfyr na 30 Rhagfyr, yn sgil gwaith yng ngorsaf Euston - bydd y gwasanaeth yn dechrau ac yn gorffen yn Crewe.

Bydd gwaith trydaneiddio Cyffordd Twnnel Hafren rhwng y Nadolig a'r flwyddyn newydd yn effeithio ar deithiau o dde Cymru i Lundain a Phortsmouth.

Bydd teithwyr yn cael eu cludo rhwng Casnewydd a Bryste ar fysiau, gyda'r amserlen wedi ei addasu i weddu'r newid.

Mae'r gwaith trydaneiddio ger y twnnel hefyd yn effeithio ar y gwasanaeth rhwng Caerdydd a Taunton.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Twnnel Hafren yn cau rhwng Nadolig a Chalan ar gyfer gwaith trydaneiddio

Bydd teithwyr sy'n defnyddio'r gwasanaeth rhwng Caerdydd a Chetlenham hefyd yn gorfod dechrau a gorffen eu teithiau yng Nghasnewydd ar y 27 a 28 Rhagfyr.

Mae gwaith i Linell y Cymoedd hefyd yn effeithio ar y gwasanaeth rhwng Treherbert a Chaerdydd ar y 27 a 28 Rhagfyr, gyda'r gwasanaeth yn dechrau ac yn gorffen ym Mae Caerdydd yn hytrach na Chaerdydd Canolog.

Yn ogystal, ar yr un diwrnodau, bydd amserlen gyfyngedig i wasanaethau rhwng Caerdydd Canolog a Penarth a Phen-y-bont ar Ogwr.

Ar ddiwrnod Calan, ni fydd yr un trên yn rhedeg ar Linell y cymoedd, oni bai am un trên yr awr rhwng Caerdydd Canolog a Phen-y-bont ar Ogwr.

Bydd y trenau i gyd yn dod i stop ar ddiwrnod Nadolig a diwrnod San Steffan, ond bydd cwmniau bysiau fel National Express a Mega Bus dal i redeg.