Atal plant rhag symud yn 'rhy aml' mewn ysbyty iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
Regis
Disgrifiad o’r llun,

Edrychodd archwilwyr yn benodol ar ddefnydd o'r arfer o rwystro cleifion rhag symud er mwyn eu rheoli

Mae'r holl gleifion o Gymru wedi cael eu tynnu allan o'r unig ysbyty iechyd meddwl diogelwch isel i blant yn y wlad yn sgil pryderon am safon y gofal yno.

Yn ôl arolygwyr, mae uned breifat Regis Healthcare yng Nglyn Ebwy yn gyson wedi bod yn rhwystro cleifion rhag symud, gyda plant yn disgrifio'r dechneg fel un "niweidiol ac anghyfforddus".

Cafodd un claf ei ddal i lawr 109 o weithiau mewn chwe mis, tra bod claf arall wedi cael ei atal rhag symud am dros awr a hanner.

Dywedodd Regis Healthcare eu bod bellach yn "rhagori mewn darparu gofal o safon i bobl ifanc".

Yn ôl Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (HIW) mae'r ysbyty yn "destun pryder" ac yn parhau i fod o dan oruchwyliaeth fanwl.

Rhwystro cleifion rhag symud

Mae gan yr uned ddwy ward gyda 12 o welyau yr un ble mae cleifion rhwng 13-18 oed o dros y DU yn cael gofal.

Mae Regis Healthcare wedi cael ei arolygu o leiaf pedair gwaith yn y naw mis diwethaf.

Daeth problemau i'r amlwg yn dilyn arolwg ym mis Mawrth, pan ddaeth HIW i'r casgliad nad oedd y gwasanaeth yn cydymffurfio gyda rheoliadau amddiffyn cleifion rhag camdriniaeth.

Edrychodd arolygwyr ar y ffordd roedd cleifion yn cael eu rhwystro rhag symud, sef dal unigolyn i lawr ar y llawr - dull rheoli sydd weithiau'n cael ei weithredu gan bum aelod o staff.

Yn ôl archwilwyr:

  • Roedd un claf wedi ei ddal i lawr 109 o weithiau mewn chwe mis;

  • Cafodd un ei atal rhag symud 76 gwaith;

  • Roedd un arall wedi ei ddal i lawr am 100 munud;

  • Cafodd dau arall eu cadw mewn sefyllfa debyg am awr yr un.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Regis Healthcare bod cyfarwyddwyr a thîm rheoli newydd yn gweithio yno bellach

Mae'r ymgynghorydd iechyd meddwl Helen Bennett yn dweud mai "cam olaf yn unig" ydy rhwystro claf, oherwydd y gallu i achosi niwed "yn feddyliol ac yn gorfforol".

Gall arwain at PTSD "os nad yn syth bin, rhywbryd yn y dyfodol", ac ychwanegodd bod dal unigolyn i lawr fwy nag unwaith yn "bryder mawr".

Mae cyngor NICE yn dweud na ddylai claf gael ei rwystro rhag symud am fwy nag 20 munud.

Dywedodd saith claf wrth arolygwyr bod y dull yma yn cael ei ddefnyddio'n ddyddiol, ac nid oedd asesiadau risg ar gyfer technegau o'r fath chwaith.

Yn ôl archwilwyr, dywedodd pobl ifanc ei fod yn "ddiurddas" ac yn "anghysurus i'w wylio".

'Cylch dieflig'

Soniodd un tad am brofiad ei ferch yn Regis. Mae ganddi amryw o broblemau iechyd meddwl ac ymddygiad.

"I ddechrau, ro'n i'n edmygu Regis, ond newidiodd hynny wrth i amser mynd yn ei flaen," meddai.

"Roedd staff yn edrych yn flinedig - er eu bod yn gwneud eu gorau i edrych yn broffesiynol. Roedd aelodau newydd o staff yn dechrau o hyd ac eraill yn gadael.

"Roedd y sefyllfa yn tarfu ar fy merch - yn sgil hynny gwaethygodd ei hymddygiad. Roedd yn gylch dieflig.

"Maen nhw wedi gorfod symud fy merch 200 milltir i ffwrdd o'i chartref. Mae 'na rieni o Gymru yn teithio ar hyd a lled y Deyrnas Unedig i ymweld â'u plant mewn ysbytai - sydd siŵr o fod ddim yn addas ar gyfer eu cyflyrau meddygol."

Roedd gan archwilwyr bryderon hefyd ynghylch rheolaeth a chadw cofnodion, prinder staff i ddarparu gofal diogel a diffyg goruchwyliaeth ddigonol i gleifion.

Yn dilyn hynny, cafodd Regis eu hatal gan HIW rhag derbyn mwy o gleifion.

Tri mis yn ddiweddarach, penderfynwyd symud pob claf o Gymru, er bod BBC Cymru ar ddeall nad oes cleifion o Loegr wedi eu symud.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan ganolfan Regis ddwy ward gyda 12 o welyau yr un

Nododd archwilwyr bod nifer y cleifion sy'n cael eu dal i'r llawr wedi gostwng o 260 ym mis Ionawr i 136 erbyn mis Mehefin.

Ond roedd glendid y wardiau yn "wael" ac ar ddau achlysur roedd biniau yn orlawn.

Yn ôl yr archwiliad diweddaraf, mae HIW wedi gweithredu'n bellach am fod "diffyg gwelliannau arwyddocaol a chyson, absenoldeb arweiniad amlwg a rheolaeth o'r ysbyty a llywodraethu annigonol".

'Tîm rheoli newydd'

Dywedodd llefarydd ar ran Regis Healthcare bod ganddynt fwrdd cyfarwyddwyr a thîm rheoli newydd ers mis Hydref.

"Nid yw adroddiadau hanesyddol yn feirniadaeth o'r sefyllfa bresennol yn Regis Healthcare Cyf. Rydym nawr yn rhagori gyda safon y gofal rydym yn ei gynnig i bobl ifanc," meddai.

Yn ôl llefarydd HIW, mae Regis Healthcare yn ystyried y gwasanaeth yn "bryder" iddynt, a bydd yn parhau i fod dan lefel uchaf o graffu wedi i "bryderon gafodd eu gweld yn ystod nifer o archwiliadau, a arweiniodd at HIW yn rhoi hysbysiad o gynnig i roi'r gorau i gofrestru pobl".

"Fe fyddwn yn monitro'r gwasanaeth yn ofalus i sicrhau bod y gwelliannau a fynnir yn cael eu gwneud," meddai.