Cynghorydd sir yn cwyno wedi 'diffyg parch' at y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Tom Giffard
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Tom Giffard yn arweinydd y Ceidwadwyr ar Gyngor Pen y bont-ar-Ogwr

Mae cynghorydd ym Mhen y bont-ar-Ogwr wedi cwyno i Gomisiynydd y Gymraeg ynglŷn ag ymateb cynghorwyr eraill i gwestiwn Cymraeg gafodd ei ofyn ganddo ddydd Llun.

Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr ar y cyngor, Tom Giffard, roedd yna chwerthin yn y siambr, gyda rhai cynghorwyr yn dweud y dylai'r cwestiwn gael ei ofyn eto yn Saesneg.

Mae'r Cyngor yn dweud bod gwasanaeth cyfieithu ar gael os oes cais yn dod i law.

"Rwy'n deall nad yw cyfradd y rheiny sy'n siarad Cymraeg yr un fath yma â beth ydyn nhw yng Ngwynedd neu Sir Gâr ond dydy hynny ddim yn golygu ein bod yn ei drin gyda llai o barch," meddai Mr Giffard.

"Fe ddylai cynghorwyr neu aelodau o'r cyhoedd sy'n dymuno siarad yn y Gymraeg neu Saesneg fod â'r hawl i wneud hynny. Dewis personol ydyw ac fe ddylai pobl gael eu parchu i wneud hynny."

'Gofyn yn Saesneg'

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg, fod 'na gwyn wedi'i dderbyn a bod gan yr iaith Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru a'i bod hi felly'n rhesymol i awdurdodau lleol roi'r cyfle i aelodau etholedig i ddefnyddio'r Gymraeg mewn pwyllgorau democratig.

Mae'r cyngor wedi ymateb drwy ddweud: "Bydd darpariaeth wastad ar gael ar gyfer cyfieithu ar y pryd, i gyd fynd a gofynion Safonau'r Iaith Gymraeg, dim ond os oes cais amdano o flaen llaw i unrhyw gyfarfod cyhoeddus.

"Y tro hwn, ni chafwyd unrhyw gais i gyfieithu, ac fe gytunodd y cynghorydd i ofyn ei gwestiwn eto yn Saesneg er mwyn iddo gael ei drafod yn y cyfarfod.

"Does dim un o'r 54 aelod etholedig ar Gyngor Pen y Bont ar Ogwr wedi datgan eu bwriad i gyfathrebu yn y Gymraeg," meddai.