McEvoy wedi'i gyhuddo o gamddefnyddio arian y Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Neil McEvoy
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyhuddiadau yn erbyn Neil McEvoy AC wedi'i gwneud gan ei gyn rheolwr swyddfa, Michael Deem, a gafodd ei ddiswyddo

Mae'r BBC wedi cael ar ddeall fod Comisiynydd Safonau'r Cynulliad yn ymchwilio i honiadau fod AC wedi camddefnyddio arian y Cynulliad.

Mae'r AC annibynnol, Neil McEvoy yn cael ei gyhuddo o gyflogi staff y cynulliad ar gyfer ymgyrchu, ac o brintio taflenni gwleidyddol ei blaid gan ddefnyddio adnoddau'r Cynulliad.

Dim ond ar gyfer gwaith fel ACau mae adnoddau'r cynulliad i fod i gael eu defnyddio.

Dywedodd Mr McEvoy fod y "sefydliad " yn ymateb ar ôl iddo ofyn "cwestiynau anodd" ac y byddai'n parhau i wneud hynny.

Cyhuddiadau

Mae'r cyhuddiadau yn erbyn Mr McEvoy wedi eu gwneud gan ei gyn reolwr swyddfa, Michael Deem, a gafodd ei ddiswyddo gan Mr McEvoy ym mis Mawrth.

Mae disgwyl i'r ddau roi tystiolaeth fel rhan o'r ymchwiliad.

Mae BBC Cymru yn deall fod y cyhuddiadau yn erbyn Mr McEvoy yn cynnwys:

  • Defnyddio ei swyddfa, sydd wedi'i chyllido gan y Cynulliad, ar gyfer dibenion gwleidyddol ac er mwyn ymgyrchu;

  • Argraffu taflenni gwleidyddol ar ffotogopïwr Comisiwn y Cynulliad ( y corff sy'n gyfrifol am ddarparu eiddo, staff a gwasanaethau i gefnogi ACau);

  • Rhoi costau argraffu ar ei lwfans a chostau swyddfa;

  • Defnyddio offer ffilmio a sain gafodd ei brynu drwy Gomisiwn y Cynulliad i gynhyrchu fideos ymgyrchu ar gyfer ymgeiswyr;

  • Cyflogi staff parhaol a rhai ar gytundebau dros dro ar gyfer dibenion ymgyrchu; a

  • Defnyddio systemau technoleg gwybodaeth y Cynulliad ar gyfer tasgau gwleidyddol ac ymgyrchu.

Mewn ymateb i'r honiadau fe ddywedodd Mr McEvoy: "Pan rydych yn herio'r sefydliad, mae'r sefydliad yn brathu'n ôl.

"Byddaf yn parhau i ofyn cwestiynau anodd y mae rhai pobl ddim eisiau clywed," meddai.

Dëellir fod y gwrandawiadau wedi dechrau ym mis Tachwedd a bod pum sesiwn wedi bod hyd yma.

Côd ymddygiad

Pan fo cwynion yn erbyn ymddygiad ACau mae'r ymchwiliad yn cael ei gynnal gan y Comisiynydd Safonau.

Mae Syr Roderick Evans wedi'i benodi fel person annibynnol i warchod safonau, i ymateb i bryderon ac i amddiffyn enw da ACau.

Mae wedi gwrthod gwneud unrhyw sylw ar y mater.

Mae'r Côd Ymddygiad ar gyfer ACau yn datgan sut y mae aelodau yn cael defnyddio'u lwfansau i wneud eu gwaith, a beth na ddylien nhw ei wneud.

Mae'n dweud: "Mae'n rhaid i ACau sicrhau eu bod yn defnyddio adnoddau'r Cynulliad ar gyfer gweithgareddau fel ACau ac nid ar gyfer unrhyw ddibenion personol."