McEvoy i ffurfio grŵp newydd o fewn Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Neil McEvoy a Leanne Wood
Disgrifiad o’r llun,

Neil McEvoy a'r arweinydd Leanne Wood yn ymgyrchu gyda'i gilydd yn 2017

Mae Aelod Cynulliad yn lansio grŵp ymgyrchu newydd o fewn Plaid Cymru ddyddiau yn unig wedi iddo gael ei ddiarddel o'r blaid.

Cafodd aelodaeth Neil McEvoy o Blaid Cymru ei ddileu am 18 mis yn dilyn gwrandawiad nos Lun. Mae'n apelio yn erbyn y penderfyniad.

Mae Mr McEvoy wedi'i wahardd o gynhadledd wanwyn Plaid Cymru y penwythnos yma, ac fe fydd yn lansio'r grŵp newydd o gyrion y gynhadledd.

Cyn y lansio, dywedodd fod Plaid Cymru weithiau yn ymddwyn mwy fel "grŵp ymgyrchu".

Dywedodd Plaid Cymru y byddai'n well pe byddai aelodau'r blaid yn siarad dros y grŵp.

Fe gafodd aelodaeth Mr McEvoy ei ddileu am 18 mis yn dilyn ymchwiliad i'w ymddygiad yng nghynhadledd wanwyn Plaid Cymru yn 2017.

Dywedodd yntau fod y broses yn "wallus o'r cychwyn cyntaf".

'Dylanwad nid llywodraeth'

Mae Mr McEvoy hefyd yn gynghorydd ar Gyngor Caerdydd dros ward Tyllgoed, a bu'n AC Annibynnol dros Ganol De Cymru ers iddo gael ei ddiarddel o grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad yn barhaol fis Medi diwethaf.

Cyn lansio'r grŵp newydd, fydd yn digwydd ar gyrion y gynhadledd yn Llangollen ddydd Sadwrn, dywedodd Mr McEvoy: "Nid grŵp ymgyrchu yw Plaid, ond weithiau mae'n ymddwyn fel un.

"Roedd y cyfle gyda ni i daflu Llafur allan o Lywodraeth gyda'r bleidlais am y prif weinidog yn 2016, ond fe ddewison ni ddylanwad yn hytrach na llywodraeth."

Bydd aelodau o'r grŵp newydd yn talu ffi aelodaeth, ac ni fyddan nhw'n cael bod yn aelodau o unrhyw blaid wleidyddol arall.

Yn ôl y trefnwyr, fe gafodd y grŵp ei greu oherwydd "rhwystredigaeth" o fewn y blaid, ac maen nhw'n galw am barchu "rheolau a democratiaeth y blaid" ac am "wahaniad llwyr rhwng cwmnïau lobïo a Phlaid Cymru".

Fe ddywedon nhw: "Dros amryw gynadleddau mae aelodau Plaid wedi cwrdd â thrafod y ffordd orau o fynd â'r Blaid ymlaen, ac wedi mynegi rhwystredigaeth gyda chyfeiriad presennol y grŵp yn y Cynulliad."

Ychwanegon nhw fod canlyniadau etholiad y blaid yn "siomedig, gyda'r grŵp Plaid presennol o 10 AC y lleiaf a fu erioed"

Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhaid i Neil McEvoy wneud cais newydd am aelodaeth o Blaid Cymru wedi 18 mis

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru fod y blaid wedi bod yn "agored a thryloyw" ac yn "caniatau trafodaeth gadarn".

"Ffocws ein cynhadledd wanwyn y penwythnos yma fydd rhannu a thrafod syniadau arloesol fydd yn ein cynorthwyo i gyrraedd ein nod o adeiladu cenedl newydd," meddai.

"Bydd cyfraniadau adeiladol o'r grŵp ymgyrchu newydd yn cael eu nodi.

"Er hynny, byddai'n fwy priodol i lefarydd y grŵp fod yn aelod o Blaid Cymru."