Cwtogi gwaharddiad Neil McEvoy o Blaid Cymru i 12 mis

  • Cyhoeddwyd
Neil McEvoy

Mae Neil McEvoy yn ystyried cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Plaid Cymru wedi iddo gael ei ddiarddel o'r blaid.

Yn dilyn gwrandawiad, mae gwaharddiad AC Canol De Cymru bellach wedi ei leihau o 18 mis i 12 mis yn dilyn gwrandawiad apêl.

Cafodd ei ganfod yn euog o gamymddwyn yn ystod cyfnod cynhadledd wanwyn Plaid Cymru yn 2017.

Dywedodd Mr McEvoy nad oedd y blaid yn gallu "parhau i drin ei haelodau fel hyn".

'Dim opsiwn'

Wrth ddiarddel Mr McEvoy ym mis Mawrth dywedodd Plaid Cymru fod yr AC wedi torri nifer o reolau'r blaid.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Plaid Cymru ddydd Mercher: "Mae'r panel gwrandawiad wedi penderfynu cynnal y cwynion yn erbyn Neil McEvoy.

"Mae wedi'i ddiarddel o'r blaid am 12 mis. Mae penderfyniad y panel yn derfynol."

Dywedodd Mr McEvoy ei fod wedi ei ddiarddel am "beidio gwneud digon i atal aelodau rhag fy nghroesawu i gynhadledd, ac am drafod tribiwnlys gwallus tu hwnt yn fyr yn ystod fy araith i'r gynhadledd".

Ychwanegodd ei fod wedi "gweithio'n galed dros y blaid ers 15 mlynedd", gan gynyddu nifer yr aelodau yng ngorllewin Caerdydd.

Neil McEvoy yng nghynhadledd 2017 Plaid
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Neil McEvoy ei fod wedi'i wahardd yn dilyn ei araith yng nghynhadledd y blaid yn 2017

"Does gen i ddim opsiwn oni bai am drafod achos llys gyda fy nhîm cyfreithiol.

"Mae arweinyddiaeth bresennol Plaid wedi cefnu ar yr egwyddorion allweddol o gyfiawnder naturiol, dilyn proses gywir a dyletswydd o ofal yn llwyr," meddai.

"Dwi eisiau i aelodau'r blaid wybod mod i eisiau'r peth gorau i Blaid Cymru a'r gorau ar gyfer Cymru. All y blaid ddim parhau i drin ei haelodau fel hyn.

"Rydyn ni'n blaid ar gyfer Cymru gyfan ac mae hynny'n golygu bod yn babell eang sy'n croesawu nifer o wahanol syniadau a chefndiroedd."

Bydd Mr McEvoy yn cael ymgeisio i ailymaelodi â'r blaid wedi i'r gwaharddiad ddod i ben, gyda phanel yn penderfynu a fydd yn cael dychwelyd ai peidio.

Ym mis Ionawr, cafodd ei wahardd yn barhaol o grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad yn dilyn yr hyn gafodd ei ddisgrifio fel "ymddygiad oedd yn tanseilio undod a chyfanrwydd y blaid".

Mae bellach yn eistedd fel AC annibynnol yn y Siambr.