Peiriannau ffacs yn costio dros £550,000 i GIG Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae mwy na 1,000 o beiriannau ffacs yn parhau i gael eu defnyddio mewn ysbytai a meddygfeydd ar draws Cymru er bod y dechnoleg yn "eithriadol o hen".
Mae o leiaf 1,063 o beiriannau ffacs ar draws byrddau iechyd Cymru gyda dros £550,000 wedi ei wario ar adnoddau ers 2015.
Mae'r bwrdd iechyd mwyaf - Betsi Cadwaladr - yn berchen ar rhwng 450 a 500.
Mae gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan 17 peiriant o'r fath.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae disgwyl i ddefnydd y peiriannau "barhau i ddirywio" wrth i dechnoleg ddatblygu.
Er hyn mae Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi prynu 176 o beiriannau ers 2015.
'Eithriadol o hen'
Mae 260 yn parhau yng Nghwm Taf a 34 ym Mhowys. Yn ôl Hywel Dda roedd 76 o beiriannau wedi cael eu defnyddio rhwng 2016 a 2017.
Mae disgwyl i'r nifer fod yn uwch gan nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn storio data.
Yn ôl Abertawe Bro Morgannwg roedd "cannoedd o beiriannau ffacs hanesyddol yn parhau i gael eu defnyddio".
Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru fod y defnydd o beiriannau ffacs yn cael ei leihau a bod "dirywiad sylweddol wedi ei weld yng ngwariant adnoddau i'r peiriannau gyda'r nifer wedi gostwng o £28,251 yn 2015 i £391 yn 2018".
Dywedodd Cadeirydd Gymdeithas Feddygol Prydain Cyngor Cymru, Dr David Bayley "bod peirannau ffacs ddim yn gwneud unrhyw beth nad yw e-byst yn gallu ei wneud, a hynny yn gyflymach ac yn fwy diogel".
"Am bob math o resymau, mae'r dechnoleg yn hen - mae angen amser i gael gwared arnynt," meddai Dr Bailey, sy'n feddyg teulu yng Nghaerffili.
"Rwy'n tybio y byddai doctoriaid ifanc y dyfodol yn syfrdanu wrth weld y fath beiriannau.
Gwariant
Er mai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr sydd â'r nifer fwyaf o beiriannau nid nhw sydd a'r gwariant uchaf:
Betsi Cadwaladr - £32,690,
Caerdydd a'r Fro - £31,978.87
Abertawe Bro Morgannwg - £43,040.66
Powys - £8,925.99
Aneurin Bevan - £18,232.06
Hywel Dda - £76,458.92
Cwm Taf - £340,381.19
Dywedodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf y byddai'n symud o beirannau tebyg i dechnoleg fwy "effeithlon" sydd â'r gallu i gopïo, argraffu a sganio.
Yn ôl y bwrdd iechyd nid yw'r ffigwr yn hollol gywir gan ei fod yn cynnwys costau adnoddau argraffu yn ogystal â ffacs.
Dros y ffin, nid oes gan fyrddau iechyd Lloegr yr hawl i brynu peiriannau ffacs rhagor.
Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw'n "parhau i geisio cynyddu gwybodaeth drwy dechnoleg ddigidol ac felly'n disgwyl gweld y dirywiad yn y peiriannau'n parhau".