Ceir ar dân: Arestio dyn
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o roi ceir ar dân yn fwriadol yn Sir y Fflint.
Cafodd pedwar o geir eu dinistrio ac un arall ei ddifrodi mewn digwyddiadau yn Nhreffynnon a Bagillt dros nos ar 26 a 27 Rhagfyr.
Bu diffoddwyr tân o Dreffynnon, Y Fflint a Glannau Dyfrdwy'n delio â'r achosion.
Cafodd y dyn 26 oed o Dreffynnon ei arestio hefyd ar amheuaeth o ymosodiad difrifol ac o ymosod ar un o weithiwyr y gwasanaethau brys.
Chafodd neb ei anafu yn sgil y tanau bwriadol honedig.
'Pwysau ychwanegol'
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod y digwyddiadau wedi cychwyn tua 21:15 ar 26 Rhagfyr cyn dod i ben tua 01:30 ar 27 Rhagfyr.
Cafodd y Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i bum digwyddiad. Roedd ymgais i roi car ar dân, gan achosi difrod i'r rhif adnabod, am 22:55 yn Stryd y Ffynnon, Treffynnon.
Yn dilyn hynny, fe'u galwyd i ddelio â cheir ar dân yn Rosehill, Treffynnon am 00:40 a Stryd Fawr, Bagillt am 01:10.
Cafodd car arall ei ddinistrio'n rhannol mewn digwyddiad ar Ffordd Bagillt, Treffynnon, am 01:15, a galwyd diffoddwyr i Sunnyside, Bagillt, am 01:18, lle cafodd car ei ddinistrio mewn tân.
Dywedodd Tim Owen, rheolwr lleihau cynnau tân yn fwriadol gyda'r gwasanaeth tân ac achub: "Mae cynnau tanau bwriadol yn gwbl annerbyniol - ynghyd â'r gost ariannol sydd ynghlwm.
"Mae'r tanau hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar ein hadnoddau ac mae'n gallu peryglu bywydau ein diffoddwyr a'r cyhoedd."