Cynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-0 Solihull Moors
- Cyhoeddwyd
Bu'n fuddugoliaeth gyffrous i Wrecsam yn erbyn Solihull Moors ar Gae'r Ras.
Er i Akil Wright fod yn agos ati ddwywaith i'r tîm cartref, bu'n rhaid aros tan ail hanner y gêm am yr unig gol.
Sgoriodd Paul Rutherford ei ail gôl y tymor hwn yn ystod munudau cynta'r ail hanner.
Mae'r gêm fuddugol wedi sicrhau'r triphwynt angenrheidiol i Wrecsam gau'r bwlch rhyngddynt a Leyton Orient yn nhabl y gynghrair.
Mae'n edrych yn obeithiol i Wrecsam a hwythau â un gêm mewn llaw.