Stryd ddrytaf Cymru yn Llandudno
- Cyhoeddwyd
Yn Llandudno mae stryd ddrytaf Cymru erbyn hyn, yn ôl arolwg gan Fanc Lloyds.
Mae pris tŷ ar Llys Helyg Drive yn ardal Gogarth, Llandudno yn fwy na £1,121,000 ar gyfartaledd, yn ôl yr ymchwil gafodd ei seilio ar ddata'r Gofrestra Tir.
Roedd yr ail stryd ddrytaf yn Ninbych-y-Pysgod, sef Stryd Sant Julian, ac yna Llandaff Place yng Nghaerdydd.
Yng Nghymru a Lloegr roedd 76 o strydoedd gyda thai werth dros £1m ar gyfartaledd, gyda dim ond un o'r rheiny yng Nghymru.
Mae prisiau tai ar Stryd San Julian yn £897,000 ar gyfartaledd, tra mai £856,000 yw'r ffigwr yn Llandaff Place.
Ilchester Place ynghanol Llundain ydy'r stryd ddrytaf yn Lloegr, gyda phris tŷ yno werth £15.6m ar gyfartaledd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2014