Gweilch y Dyfi: Caniatáu canolfan newydd

  • Cyhoeddwyd
Canolfan newydd y DyfiFfynhonnell y llun, Penseri George&Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr holl gyfleusterau, sydd ar hyn o bryd mewn gwahanol gabanau ar y safle, o dan yr un to yn yr adeilad newydd

Mae caniatâd cynllunio wedi cael ei roi ar gyfer codi canolfan newydd ar gyfer ymwelwyr â Gweilch y Dyfi a'r warchodfa natur ger Machynlleth.

Cafodd Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn wybod gan Gyngor Powys ym mis Rhagfyr y gall y gwaith o godi'r adeilad newydd nawr fynd yn ei flaen.

Mae disgwyl i'r gwaith gychwyn yn ystod tymor yr hydref 2019, a bydd y ganolfan yn agor ar ei newydd wedd ym mis Ebrill 2020.

Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri yn cyfrannu hanner y gost o £1.1m i adeiladu'r ganolfan, gyda'r gweddill yn cael ei ariannu drwy gyfraniadau eraill.

Mae BBC Cymru Fyw yn deall fod dros hanner yr arian ychwanegol wedi cael ei godi'n barod, gan gynnwys £250,000 gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Dim ond am bum mis o'r flwyddyn mae'r atyniad ar agor i'r cyhoedd ar hyn o bryd

Ar hyn o bryd mae'r ganolfan groeso, y siop, y swyddfeydd, y caffi a'r tai bach i gyd mewn cabanau gwahanol.

Byddai'r holl gyfleusterau yn dod o dan yr un to yn yr adeilad newydd.

Dywedodd rheolwr Prosiect Dyfi ar ran yr Ymddiriedolaeth, Emyr Evans, wrth Gyngor Powys fod hwn yn "gychwyn ar gyfnod newydd yn ein hanes".

"Ers 10 mlynedd rydyn ni wedi bod yn ychwanegu gwahanol elfennau i'n canolfan i ymwelwyr â Chors Dyfi, ond erbyn heddiw maen nhw'n hen ofnadwy," meddai

Ffynhonnell y llun, Penseiri George&Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cyfleusterau'r ganolfan newydd wedi eu rhannu dros ddau lawr, gyda'r caffi, y siop a chanolfan wybodaeth ar y llawr gwaelod, a'r sgriniau lluniau byw a swyddfeydd uwchben

"Fe fydd y cynllun hwn yn ein caniatáu i godi canolfan ymwelwyr newydd sbon yng nghanolbarth Cymru a fydd yn rhoi profiad arbennig i blant ac oedolion o'r gweilch, a natur y gors sydd yma yn Nyffryn Dyfi."

Pan fydd y ganolfan newydd yn agor fe fydd modd i ymwelwyr fynd yno am wyth mis o'r flwyddyn yn hytrach na'r pump presennol.

Nid dyma'r datblygiad mawr cyntaf i'r safle. Cafodd tŵr gwylio 360 ei agor yn 2014, a gafodd hefyd ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.