Ni fydd Geraint Thomas yn cystadlu yn y Giro D'Italia

  • Cyhoeddwyd
Geraint Thomas a Chris FroomeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Thomas enillodd y Tour de France yn 2018 tra bod Chris Froome wedi gorffen yn drydydd

Ni fydd Geraint Thomas yn cystadlu yn y Giro D'Italia eleni gan ei fod yn canolbwyntio ar y Tour de France.

Mae Team Sky wedi cyhoeddi na fydd Thomas, 32 oed, yn rhan o'r gystadleuaeth ym mis Mai, gyda disgwyl i Egan Bernal o Golombia arwain y tîm.

Ni fydd Chris Froome, pencampwr presennol y Giro D'Italia yn cystadlu chwaith er mwyn herio Thomas yn y Tour.

Bydd Froome yn anelu am ei bumed fuddugoliaeth yn y gystadleuaeth.

"Fy mhrif nod yw dychwelyd i'r Tour de France a cheisio sicrhau'r canlyniad gorau bosib," meddai Thomas.

"Efallai os nad oeddwn i wedi ennill y Tour yn 2018 yna byddwn i wedi edrych ar y Giro neu'r Vuelta, ond ar ôl curo bydd gen i'r rhif un ar fy nghefn a byddai hi'n drist peidio mynd amdani unwaith eto.