Geraint Thomas yn Bersonoliaeth Chwaraeon BBC Cymru 2018

  • Cyhoeddwyd
geraint thomasFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Geraint Thomas wedi cael ei enwi fel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2018, a hynny am yr eildro.

Daeth y seiclwr i'r brig yn y bleidlais gyhoeddus yn dilyn blwyddyn ddisglair ble llwyddodd i ennill y Tour de France am y tro cyntaf.

Y chwaraewr snwcer Mark Williams ddaeth yn ail, a hynny wedi iddo ennill Pencampwriaeth Snwcer y Byd am y trydydd gwaith.

Yn drydydd oedd Laura Deas, a enillodd fedal efydd yn y gystadleuaeth sgerbwd yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf yn PyeongChang, De Corea.

Concro'r Alpe d'Huez

Roedd Thomas, 32, yn ffefryn clir ar gyfer y wobr yn dilyn blwyddyn ble llwyddodd i ennill ras enwocaf yn y byd seiclo.

Y gŵr o Gaerdydd oedd y Cymro cyntaf erioed, a dim ond y trydydd beiciwr o Brydain, i ennill y Tour de France.

Ymhlith ei uchafbwyntiau yn ystod y ras dair wythnos o hyd oedd ei fuddugoliaeth ar lethrau'r Alpe d'Huez yn y 12fed cymal.

Doedd Thomas ddim hyd yn oed yn brif feiciwr i Team Sky ar ddechrau'r ras, ond gyda Chris Froome ddim ar ei orau fe adeiladodd y Cymro ddigon o fantais i sicrhau'r crys melyn.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r ail waith i Geraint Thomas ennill Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru

Ar ôl cael ei goroni'n bencampwr ar y Champs Elysses ym Mharis, dychwelodd Thomas i Gymru ble roedd miloedd o gefnogwyr yn aros i'w groesawu ar risiau'r Senedd ym Mae Caerdydd.

Dyma'r ail waith i Thomas ennill gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Cymru, wedi iddo ddychwelyd o Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014 gyda dwy fedal gan gynnwys aur yn y ras ffordd.

Yn ail yn y wobr eleni oedd Mark Williams, a sicrhaodd fuddugoliaeth annisgwyl ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd wrth drechu John Higgins 18-16 yn y Crucible yn Sheffield.

Daeth y fuddugoliaeth honno 18 mlynedd wedi iddo ennill y tlws am y tro cyntaf, a 15 mlynedd ers iddo'i gipio ddiwethaf.

Roedd 2018 hefyd yn flwyddyn nodedig i Laura Deas, wrth iddi ddod y person cyntaf o Gymru i ennill medal yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf.

Y tri arall ar y rhestr fer ar gyfer y brif wobr oedd y pêl-droediwr Gareth Bale, y seiclwr Elinor Barker a'r sgïwr Menna Fitzpatrick.

Cafodd y wobr ei hennill y llynedd gan y chwaraewr rygbi Jonathan Davies, a hynny wedi iddo serennu ar daith y Llewod i Seland Newydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ymhlith yr enillwyr eraill ar y noson roedd Jayne Ludlow, gafodd ei henwi'n Hyfforddwr y Flwyddyn ar ôl arwain tîm pêl-droed merched Cymru o fewn un gêm i gyrraedd Cwpan y Byd.

Fe aeth gwobr Tîm y Flwyddyn i dîm hoci ia Devils Caerdydd, a lwyddodd i ennill y Gynghrair Elît am yr ail dymor yn olynol.

Cafwyd cydnabyddiaeth hefyd i'r Baralympwraig Tanni Grey Thompson, a dderbyniodd Wobr Cyfraniad Oes.