Corff dynes wedi ei ddarganfod mewn tŷ ger Y Bala
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu eu galw am 05:30 ddydd Mawrth.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi lansio ymchwiliad ar ôl i gorff dynes gael ei ddarganfod ger Y Bala.
Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad ar lannau Llyn Tegid am 05:30 ddydd Mawrth.
Cadarnhaodd y llu bod dyn ifanc yn helpu gyda'r ymholiadau a bod disgwyl cynnal ymchwiliad post mortem ddydd Mercher.
Dywedodd yr uwch-arolygydd dros dro, Neil Harrison, eu bod nhw'n cydymdeimlo â theulu a ffrindiau'r ddynes.
Mae teulu'r ddynes wedi cael gwybod ac mae'r ymchwiliad yn parhau.