Cyhuddo dyn wedi digwyddiad ar Bont Hafren
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o achosi niwsans cyhoeddus yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â hedfan drôn oddi ar Bont Hafren.
Cafodd Alexandru Scutaru, 30 oed o Northampton, ei arestio ddydd Llun ar ôl dringo i ben un o dyrrau'r bont.
Roedd rhaid i'r heddlu rwystro'r traffig gan achosi tagfeydd ar yr M48 i'r ddau gyfeiriad.
Mae Mr Scutaru wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tan iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Bryste ar 21 Chwefror.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2018