Cyhoeddi enw dyn fu farw ar Yr Wyddfa ar noswyl Nadolig
- Cyhoeddwyd

Cafodd y dyn ei ddarganfod yn farw islaw Bwlch y Saethau
Mae dyn a fu farw ar ôl disgyn ar Yr Wyddfa ar noswyl Nadolig wedi ei enwi.
Roedd Graham Schultz yn 41 oed ac o Gaerdydd.
Yn ôl Crwner Gogledd Orllewin Cymru, Dewi Pritchard Jones, mae ymchwiliad i'w farwolaeth wedi dechrau.
Cafodd Tîm Achub Mynydd Llanberis wybod am y digwyddiad ar 24 Rhagfyr gan aelodau o'r cyhoedd oedd yn pryderu bod rhywun wedi cael ei ddal wrth i gerrig syrthio.
Cafodd hofrennydd Gwylwyr y Glannau ei anfon i'r ardal, ond roedd y dyn eisoes wedi marw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2018