Galw am well cyfleusterau i 'fanteisio ar dwf seiclo'

  • Cyhoeddwyd
Geraint Thomas

Mae angen buddsoddi rhagor mewn cyfleusterau seiclo yng Nghymru er mwyn sicrhau bod y gamp yn manteisio ar y diddordeb cynyddol ers buddugoliaeth Geraint Thomas yn y Tour de France.

Dyna farn prif weithredwr Beicio Cymru, Anne Adams-King, sydd yn dweud bod llwyddiannau'r Cymro eisoes "wedi codi proffil seiclo yn wleidyddol".

Fe welodd y corff dwf o 6% yn nifer eu haelodau yn 2018 o'i gymharu â'r flwyddyn gynt, gyda mwy o blant a menywod yn enwedig yn ymaelodi.

Dywedodd un o benaethiaid Maindy Flyers - cyn-glwb seiclo ieuenctid Thomas - fod y diddordeb ymhlith pobl ifanc ers y Tour llynedd wedi bod yn "ddigynsail".

'Eisin ar y gacen'

Yn dilyn ei fuddugoliaeth ar y Tour ym mis Gorffennaf, dychwelodd Geraint Thomas i groeso mawreddog yn ei ddinas enedigol yng Nghaerdydd.

Cipiodd wobrau Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 2018 Cymru a'r DU ym mis Rhagfyr, cyn cael ei enwi ar Restr Anrhydeddau Flwyddyn Newydd y Frenhines.

Ac yn ôl Ms Adams-King, roedd y prif weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, yn llygad ei le pan ddywedodd bod Thomas "wedi gwneud mwy mewn 21 diwrnod nac y gallwn i wedi ei wneud mewn 21 mlynedd" wrth werthu Cymru i'r byd.

"Fe ddechreuon ni'r flwyddyn [2018] gyda'r Gemau'r Gymanwlad fwyaf llwyddiannus erioed i Feicio Cymru gyda chwe medal a thîm ifanc," meddai.

"Fe wnaeth hynny ddangos bod llwybr talent gref o fewn seiclo yng Nghymru, ond roedd buddugoliaeth Geraint yn eisin ar y gacen i gamp a gweithgaredd sydd eisoes yn boblogaidd.

"Fe wnaeth e'n bendant godi proffil seiclo yn wleidyddol."

Ffynhonnell y llun, Huw Fairclough
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Geraint Thomas ddychwelyd i'w gyn-glwb, Maindy Flyers, yn yr haf ar gyfer digwyddiad i ddathlu ei fuddugoliaeth ar y Tour

Bellach mae dros 180 o glybiau yn gysylltiedig â Beicio Cymru, ffigwr sydd wedi parhau yn weddol sefydlog.

Ond mae'r aelodaeth o dros 7,000 yn parhau i godi, gyda chynnydd sylweddol yn enwedig ymhlith plant (11%) a menywod (12%) rhwng 2017 a 2018.

Mae'r Maindy Flyers wedi bod ar frig y don honno, ac mae Jo Phillips, cyn-gadeirydd y clwb sydd nawr yn aelod pwyllgor, yn dweud fod y clwb "ar ei fwyaf erioed".

"Mae'n dda gweld bod y gamp yn tyfu, a bod mwy o glybiau yn tyfu a datblygu," meddai.

"Ar ôl y Tour roedd y diddordeb yn ddigynsail - roedd gennym ni tua 15-20 o blant y mis eisiau ymuno. Roedd hynny yn ei hun yn her i ni."

Ffynhonnell y llun, Debbie Wharton
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Thomas (ail o'r chwith) yn ei ddyddiau cynnar gyda'r Maindy Flyers

Gyda rhestr aros nawr ar gyfer aelodaeth, mae'r clwb wedi recriwtio mwy o hyfforddwyr yn ogystal ag ehangu darpariaeth y clwb ar gyfer beicwyr yn eu harddegau hŷn.

Ac er bod eu statws fel cyn-glwb Geraint Thomas - yn ogystal â sêr eraill fel Luke Rowe, Owain Doull ac Elinor Barker - yn atyniad, mae Ms Phillips yn pwysleisio nad dyna'r unig beth sy'n denu plant yno.

"Rydyn ni'n hynod ffodus hefyd o'r cyfleusterau sydd gennym ni," meddai. "Mae'n rhaid i blant allu dysgu mewn awyrgylch saff."

'Rhaid gwella cyfleusterau'

I glybiau eraill yng Nghymru, dyw'r diddordeb cynyddol yn seiclo ers y Tour de France ddim wastad yn golygu twf yn yr aelodau.

"Ni ddim wedi gweld pethe'n newid llawer," meddai Andrew Anthony, ysgrifennydd Clwb Seiclo Llandeilo yn Sir Gâr. "Mae pethe fel 'na dim ond yn short lived.

"Hefyd mae rhai pobl sydd ddim moyn bod yn rhan o glwb. Pan ni'n mynd mas ar yr hewl, dim pawb sydd ffansio gwneud hynna, felly ni'n trio defnyddio hewlydd mwy tawel."

Mae ffigyrau arolygon Chwaraeon Cymru yn gyson yn dangos fod y gamp yn un o'r gweithgareddau chwaraeon mwyaf poblogaidd fodd bynnag, gydag 11% o oedolion yn 2017/18 yn dweud eu bod yn beicio.

Ffynhonnell y llun, Huw Fairclough
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Thomas a Chris Froome yn sgwrsio gyda rhai o aelodau ifanc Maindy Flyers a chlybiau eraill - mae gan y clwb tua 200 o aelodau bellach

Ac mae Mr Anthony yn cydnabod fod diddordeb yn y gamp yn ymestyn tu hwnt i ffigyrau aelodaeth clybiau seiclo yn unig.

"Mae seiclo yn bendant wedi mynd yn fwy poblogaidd yn yr ardal lle ni," meddai.

"Ac achos bod Geraint wedi ennill [y Tour de France], fe wnaeth hynny roi mwy o interest wedyn yn y Tour of Britain [ddaeth i Gymru ychydig wythnosau'n ddiweddarach]."

Yn ôl Ms Adams-King mae'r diddordeb cynyddol yn brawf o'r angen i ddarparu ar gyfer pobl ar lawr gwlad lawn cymaint â'r athletwyr elît.

"O ran adloniant rydyn ni'n gweld mwy o bobl ar eu beiciau'n fwy cyffredinol, ond mae mwy y gallen ni wneud o ran isadeiledd a chyfleusterau," meddai.

"Rydyn ni ar hyn o bryd yn gweithio gyda nifer o awdurdodau lleol ynglŷn â chreu strategaeth seiclo, a byddai'n grêt cael un ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru."

Ffynhonnell y llun, Beicio Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Anne Adams-King yw prif weithredwr Beicio Cymru

Ychwanegodd ei bod yn gobeithio mai dim ond y dechrau fyddai'r gwaith diweddar ar gyfleusterau fel y felodrom yng Nghaerfyrddin a'r trac caeedig ym Mharc Gwledig Pen-bre.

"Bydden ni'n sicr yn croesawu felodrom allanol tebyg i Gaerfyrddin neu Faendy yng ngogledd Cymru, yn ogystal â llwybrau ffordd gaeedig yn y de-ddwyrain, canolbarth a'r gogledd-orllewin, a chyfleusterau BMX ar draws y wlad," meddai.

"Er ein bod ni'n gamp y mae modd ei gwneud ar neu oddi ar y ffordd, mae dal angen y cyfleusterau arnom ni i hyfforddi a chefnogi pobl i adeiladu eu hyder a'u gallu, eu cadw nhw'n saff, a rhoi cyfle iddyn nhw lwyddo a chyrraedd eu heriau personol."

Wrth siarad ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru dywedodd Dafydd Trystan, cadeirydd Hyfforddiant Beicio Cymru, y byddai sicrhau bod mwy o'r cyhoedd yn defnyddio'u beiciau yn "gwneud gwahaniaeth mawr i iechyd pobl".

Galwodd ar gynghorau a Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mwy os am sicrhau nad oedd y diddordeb cynyddol yn pylu.

"Dyna'r peryg os nad oes buddsoddiad ochr yn ochr â'r cynnydd yma," meddai.