Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 0-1 Dover Athletic
- Cyhoeddwyd
Fe fethodd Wrecsam â chau y bwlch ar frig y Gynghrair Genedlaethol, wedi iddyn nhw golli adref yn erbyn Dover.
Sgoriodd Anthony Jeffrey gôl hwyr i'r ymwelwyr ar y Cae Ras.
Mae Wrecsam wedi colli dwy yn olynol, ac maen nhw bellach bedwar pwynt tu ôl i Leyton Orient, sydd ar frig y tabl.