'Hyd at 10,000 litr o olew' wedi gollwng yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Gwaith archwilio
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhwystrau wedi cael eu gosod er mwyn amddiffyn traethau

Mae cwmni Valero yn amcangyfrif bod rhwng 7,500 a 10,000 o litrau o olew wedi llifo i'r aber ger eu purfa yn Aberdaugleddau.

Yn ôl awdurdodau'r porthladd roedd y gollyngiad dan reolaeth erbyn bore Iau, wedi iddyn nhw gael gwybod dros nos bod tanwydd wedi gollwng o bibell sy'n cysylltu'r burfa â'i glanfa.

Dywed harbwrfeistr Aberdaugleddau, Mike Ryan bod arolwg gan awyren rheoli llygredd wedi cadarnhau bod rhan fwyaf yr olew wedi gwasgaru'n naturiol.

Mae cwmni Valero wedi ymddiheuro am y digwyddiad, a arweiniodd at orfod cau rhan o'r aber.

Dywedodd Mr Ryan eu bod wedi dilyn y camau priodol yn unol â'u cynllun llygredd olew "cyn gynted ac y cawsom wybod am y digwyddiad, ychydig ar ôl hanner nos".

Mae rhwystrau wedi cael eu gosod yn y dŵr yn Sandy Haven ac o gwmpas aber Ganne ger Dale er mwyn rhwystro'r sylwedd rhag lledaenu ymhellach.

"Mae yna adroddiadau o olew ar y lan yn Dale a Bae Musselwick," meddai. "Mae gwaith glanhau ar waith a bydd asiantaethau'n parhau i fonitro'r traethau cyfagos yn y dyddiau nesaf."

Ffynhonnell y llun, Maritime and Coastguard Agency
Disgrifiad o’r llun,

Llun o'r awyr yn dangos gweddillion yr olew yn gwasgaru trwy'r môr

Yn ogystal â Valero ac awdurdodau'r porthladd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir Penfro, Asiantaeth Gwylwyr y Glannau a Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin Cymru yn cydweithio i warchod yr amgylchedd a bywyd gwyllt yr ardal.

Dywedodd Andrea Winterton, rheolwr gweithredoedd Cyfoeth Naturiol Cymru bod swyddogion ar ddyletswydd "mewn lleoliadau allweddol ar draws Dyfrffordd Aberdaugleddau yn cadw golwg am arwyddion o lygredd yn cyrraedd y lan".

Ychwanegodd: "Bydd y rhwystrau gafodd eu gosod ddoe a bore 'ma yn aros yn eu lle nes rydyn ni'n hyderus bod y perygl i fywyd gwyllt a'r morfeydd heli ar ben.

"Mae ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal i sut wnaeth yr olew gyrraedd yr aber a bydd y casgliadau'n cael eu rhannu ar y diwedd."

Mae RSPB Cymru yn dweud eu bod yn "bryderus iawn" ynghylch y digwyddiad.

Dywedodd llefarydd: "Hyd nes y cawn gadarnhad pa mor ddifrifol yw'r digwyddiad, ni allwn asesu'r effaith debygol. Fodd bynnag, mae unrhyw ollyngiad olew â'r potensial i effeithio ar adar yn ddifrifol."

Parhau mae'r apêl i'r cyhoedd i fod yn wyliadwrus o unrhyw lygredd ar hyd yr arfordir, yn arbennig os ydyn nhw'n dod ar ei draws tra'n mynd am dro, ac i ffonio Cyfoeth Naturiol Cymru ar 03000 653000.