Galw am 'welliannau sylweddol' i Fil Amaeth y DU

  • Cyhoeddwyd
Fferm

Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad wedi dweud bod angen gwelliannau sylweddol i Fil Amaethyddiaeth y DU cyn gofyn i'r Cynulliad gytuno arno.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bwerau penodol gael eu cynnwys ym Mil y DU i'w galluogi i ddileu taliadau uniongyrchol i ffermwyr fesul cam a chyflwyno cynlluniau cymorth ariannol newydd.

Y Cynulliad sy'n gyfrifol am amaethyddiaeth yng Nghymru, ac ar hyn o bryd nid yw Bil y DU yn cynnwys rôl i'r Cynulliad. Mae'r Pwyllgor yn galw am Fil Cynulliad yn dilyn pryderon ynghylch y darpariaethau ehangach i Gymru yn Bil y DU.

Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi dweud y byddai wedi ffafrio Bil Cymru, yn hytrach na dilyn y drefn drwy Fil Amaethyddiaeth y DU.

Eglurder

Ers dros 40 mlynedd, mae amaethyddiaeth yng Nghymru wedi'i hariannu drwy gyllid PAC gan yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'r Pwyllgor yn galw am eglurder ynghylch cymorth ariannol yn y cyfnod yn syth ar ôl Brexit ac mae'n credu y dylai taliadau uniongyrchol i ffermwyr barhau yn y tymor byr.

Disgrifiad o’r llun,

Mike Hedges AC sy'n cadeirio'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad

Bydd Bil arfaethedig y DU yn galluogi Llywodraeth Cymru i gyflwyno systemau cymorth ariannol newydd ar gyfer amaethyddiaeth ar ôl Brexit.

Mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor, ni roddodd Llywodraeth Cymru wybodaeth am y gost o gyflwyno cymorth ariannol newydd arall, heblaw am ddweud nad "oes unrhyw oblygiadau ariannol uniongyrchol".

Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn pryderu bod Llywodraeth y DU, yn y cyfamser, wedi rhybuddio am "wariant sylweddol" ar gyfer ei bwerau cyfatebol.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, Mike Hedges AC: "Mae Brexit yn gyfle i Lywodraeth Cymru ailystyried y ffordd y cefnogir y sector amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae barn wahanol ymhlith rhanddeiliaid ac ar draws y Cynulliad am y ffordd orau o wneud hyn."

"Fodd bynnag, mae consensws y dylai ffermwyr Cymru barhau i gael cymorth ariannol dan y cynlluniau PAC presennol yn y cyfnod yn syth ar ôl Brexit," meddai.

'Amheuon cryf'

Mae'r Pwyllgor hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gwblhau a chyhoeddi asesiad effaith ar draws y sector cyn dechrau dileu taliadau uniongyrchol i ffermwyr fesul cam.

Ychwanegodd Mr Hedges: "Er ein bod yn cefnogi cynnwys darpariaethau ym Mil y DU i ganiatáu ar gyfer hyn, mae gennym amheuon cryf ynghylch darpariaethau eraill yn y Bil a fydd yn cyflwyno newidiadau sylfaenol a pharhaol i bolisi amaethyddol yng Nghymru.

"Y ffordd fwyaf priodol o ddeddfu ar bwnc mor arwyddocaol â dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru yn y tymor hir yw drwy Fil Cynulliad.

"Dylai Llywodraeth Cymru wneud ymrwymiad y bydd amser ar gael yn y rhaglen ddeddfwriaethol i gyflwyno Bil Amaethyddiaeth Cymru a'i basio cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn," meddai.