Seren rygbi rhyngwladol 'wedi ein twyllo o filoedd o ddoleri'
- Cyhoeddwyd
Mae yna honiadau fod chwaraewr rygbi rhyngwladol wedi twyllo cyn bartneriaid o filoedd o bunnoedd er mwyn cynnal ei obsesiwn gyda gamblo.
Tan yn ddiweddar roedd Regan King, 38, yn chwarae i Gastell-nedd yn Uwch Gynghrair Cymru, ond mae hefyd wedi chwarae i'r Crysau Duon a'r Scarlets.
Dywedodd dwy ddynes wrth BBC Cymru eu bod wedi benthyg "miloedd iddo" ar ôl iddo erfyn am help gyda phroblemau llif arian.
Maen nhw'n dweud na chawsant yr arian yn ôl.
Gwnaed cais i Mr King am sylw, ond gwrthododd cyfle i gael ei gyfweld.
Mae BBC Cymru wedi gweld negeseuon ac e-byst gan Mr King i nifer o gyn-bartneriaid sy'n ymddangos fel ei fod yn cyfadde' fod arno filoedd o ddoleri Awstralia iddynt. Roedd wedi addo talu'r arian yn ôl.
Dywedodd Diana Stalteri, 40 o Perth, iddi gwrdd â Regan ar-lein yn 2017.
"Ar ôl hynny fe wnaeth o ofyn i fenthyg 10,000 o ddoleri Awstralia (£5,500) er mwyn talu ei ddyledion.
"Roedd Regan wedi arwyddo cytundeb gyda chlwb rygbi Perth, ac roedd amser yn brin oherwydd bod y tymor eisoes wedi dechrau, felly fe wnes i fenthyg 'chydig o arian ar y sail fy mod yn gweld y cytundeb...ac ar y sail fy mod yn cael yr arian 'nôl ar ddiwedd y tymor."
Dywedodd iddi hi ddiweddu'r berthynas ym Mai 2018.
"Perthynas agos i'r teulu wnaeth fy ffonio gyda gwybodaeth am yr arian - ei fod yn gaeth i gamblo, a'r arian oedd arno fe i bobl, yn enwedig yn Seland Newydd," meddai Ms Stalteri.
"O'n i'n gwybod na fyddwn i wedi cael galwad fel yna gan aelod o'r teulu, heb fod yna rhywfaint o wirionedd.
"Mae yna bum menyw arall wedi bod mewn cysylltiad â mi, ac mae pob un â straeon tebyg am Regan.
"Dywedodd Regan wrthyf fod ganddo broblem gamblo, ond rwy'n meddwl ei fod yn fwy na hyn... rwy'n meddwl fod o'n gaeth hefyd o wneud y math yma o beth i bobl a gweld faint mae'n gallu cael gan bob unigolyn."
Ychwanegodd ei bod hi wedi gorfod ymweld â'r ysbyty ar ôl dod i wybod am hyn.
"Ro' ni'n sâl oherwydd y pwysau, a gwybod pa fath o ddyn o'n i wedi bod mewn perthynas gydag ef a'r celwydd o'n i wedi ei brofi.
"Dyw hyn ddim er mwyn ceisio dial... rwy'n meddwl fod sawl perthynas yn chwalu, ond mae hyn ynglŷn â phatrwm, mae'n defnyddio ei broffil amlwg i ddylanwadu ar bobl ddiniwed.
"Rwyf am atal hyn rhag digwydd eto oherwydd does yna ddim ffordd arall dim ond adrodd y stori."
Fe wnaeth Cheryl Wenninger, 47, hefyd o Perth, gwrdd â Mr King ar-lein yn Ebrill 2018.
Dywedodd wrth BBC Cymru ei fod ef wedi pwyso ar ei hochr ddyngarol drwy ddweud fod yr arian wnaeth hi fenthyg ar gyfer ei blant.
"Fe ddywedodd wrthyf ei fod yn mynd drwy ysgariad, ac oherwydd hynny roedd ei gyfrifon banc wedi eu rhewi.
"Pe na bawn yn gallu rhoi'r arian yna byddai ef yn emosiynol ac yn drist iawn.
"Oherwydd pwy oedd o, doeddwn ddim yn credu fod yna reswm i'w amau, ond wrth i amser rygnu 'malen roeddwn yn cwestiynu pam fod y broses ysgaru yn cymryd mor hir."
'Teimlo cywilydd'
Dywedodd Ms Weinniger ar ôl iddi fenthyg miloedd o ddoleri, ei bod wedi darllen neges ar y gwefannau cymdeithasol yn dweud fod ganddo broblem gamblo.
"Pan wnes i gysylltu â Regan...fe ddywedodd wrthyf fod ganddo salwch meddwl a'i fod wedi bod yn sâl am beth amser.
"Does yna ddim ysgariad, dim cyfrifon banc, dim asedau - ond i droi rownd a dweud ei fod wedi bod yn sâl - pe bai eisiau talu'r arian 'nôl byddwn wedi derbyn rhai o'r taliadau erbyn hyn.
"Dwi ddim am iddo wneud hyn i unrhyw un arall - mae agen i bobl fod yn ymwybodol o'i gymhellion.
"Fe gymrodd amser hir i mi ddod i delerau gyda'r cywilydd o'n i'n ei deimlo.... ond dim ond un person ddylai deimlo cywilydd, a Regan King yw hwnw."
Mae BBC Cymru wedi siarad â phum dynes a dau ddyn, y pump yn honni eu bod wedi benthyg arian i Mr King, a heb gael yr arian yn ôl.
Ni wnaeth Mr King wadu'r honiadau pan ofynnwyd iddo am sylw, ond gwrthododd cael ei gyfweld.
Does yna ddim awgrym ei fod wedi gweithredu yn anghyfreithlon.
Ni chafodd y menywod a siaradodd gyda'r BBC eu talu am eu cyfweliadau.