Achos herwgipio'n mynd i Lys y Goron

  • Cyhoeddwyd
llys caernarfon

Mae achos dyn 21 oed o Ynys Môn sydd wedi'i gyhuddo o herwgipio wedi cael ei anfon i Lys y Goron.

Ymddangosodd Owain Hughes, o Hostel Coed Lws yn Llangefni, gerbron ynadon Caernarfon ddydd Iau i wynebu cyhuddiadau o herwgipio ac o wneud bygythiad gydag arf pigog.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa tan iddo ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ar 4 Chwefror.

Roedd Angharad Mullarkey ar ran yr erlyniad yn honni iddo fynnu cael pas mewn car dieithryn ym maes parcio siop Iceland yn Llangefni ar 27 Rhagfyr.