Williams yn gadael Crystal Palace ac yn arwyddo i Charlton
- Cyhoeddwyd

Fe ymunodd Jonny Williams ag academi Crystal Palace 17 mlynedd yn ôl
Mae chwaraewr canol cae Cymru, Jonny Williams wedi gadael Crystal Palace yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Mae Williams, sy'n 25 oed ac sydd wedi chwarae 17 o weithiau dros Gymru, wedi arwyddo cytundeb parhaol chwe mis gyda Charlton Athletic yn Adran Un.
Ers troi'n broffesiynol gyda Crystal Palace yn 2011, mae Williams wedi treulio cyfnodau ar fenthyg yn Ipswich, Nottingham Forrest, MK Dons ac yn fwy diweddar Sunderland.
Roedd Williams yn rhan o garfan Cymru yn Euro 2016 yn Ffrainc ond mae wedi dioddef cyfres o anafiadau ers hynny sydd wedi ei atal rhag cael rhediad cyson o gemau gyda Crystal Palace.
Dywedodd rheolwr Charlton, Lee Bowyer: "Mae Jonny yn chwaraewr da iawn. Mae'n gallu cadw meddiant, mae'n ddeallus ac mae'n gweithio'n galed, dyma bopeth dwi'n chwilio amdano mewn chwaraewr canol cae."
Mae Williams yn gobeithio bod yn rhan o garfan Charlton ddydd Sadwrn wrth iddyn nhw baratoi i wynebu ei gyn glwb, Sunderland.