Brian yn troi corneli newydd gyda her y bobsled

  • Cyhoeddwyd
Brian RobertsFfynhonnell y llun, Brian Roberts

Mae dyn o Flaenau Ffestiniog yn paratoi i gystadlu dros Brydain yng Nghwpan Para Bobsled y Byd yn Norwy, er na fu erioed mewn bobsled tan ddoe.

Mae Brian Roberts, sy'n ddiffrwyth o'i frest lawr wedi damwain beic modur 22 mlynedd yn ôl, newydd ddechrau hyfforddi ar y trac ar ôl teithio i Lillehammer ddydd Mercher.

Cafodd wahoddiad i ymuno â'r garfan a chystadlu gyda'r pencampwr byd presennol, Corie Mapp ar ôl blynyddoedd o ennill tlysau rasio cartio a chreu argraff yn y byd rasio car salŵn.

Dywedodd wrth raglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru bod yr ymarferion cyntaf wedi mynd "yn iawn" a'i fod yn benderfynol o wneud y mwyaf o bob cyfle wedi'r ddamwain

Ffrind o America, meddai, wnaeth awgrymu y gallai fod yn aelod o dîm bobsled Prydain ar ôl darllen adroddiadau ar-lein am ei lwyddiannau diweddar.

Dywedodd bod y gamp yn "yn debyg i cartio" o ran y sgiliau sy'n angenrheidiol i deithio ar gyflymder uchel trwy gyrsiau llawn corneli heriol.

"Ti'n gorfod bod yn fanwl efo'r steering a petha," meddai. "Nath o neud fi in touch efo Team GB... ar fy ffor' wedyn i trio ca'l yr International Bobsleigh licence, ca'l medical a phetha... mae o 'di digwydd yn reit sydyn yn y mis dwytha' cyn 'Dolig."

'Anhygoel o brofiad'

Roedd ei ymweliad cyntaf â'r trac lle mae'r bencampwriaeth byd yn dechrau yr wythnos nesaf yn agoriad llygad.

"Nathon ni cerdded i lawr y trac gynta - wel, wheel-io o'n i anyway, ac o'dd coach chi yn dal fi yn ôl efo darn o raff a crampons. Esu, o'n i'm yn sylwi bod o mor serth, 'de!

Ffynhonnell y llun, Brian Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Roedd golwg gyntaf Brian Roberts o'r cwrs yn agoriad llygad

"Ti'n sôn am ryw 12 foot i'r ochra - o'n i fyny ryw chwech troedfedd ar fanna.

"A'th hi'n iawn. Oeddan ni'n dechra o hannar ffor' i ddechra efo, so heddiw byddan ni'n dechra o'r top, de. Ond o'dd o'n anhygoel o brofiad."

'Yma i ddysgu'

Er ei fod yn disgrifio'i hun fel person cystadleuol, dywedodd mai dysgu yw'r prif nod yn ystod y dyddiau nesaf.

"'Dwi just yn mynd i go with the flow a gweld sut ma'n mynd. Os 'di'r amsar yn dda bydd hi'n iawn, ond os 'di o'm yn na'i ddysgu a mynd ymlaen i'r ras nesa'.

Gan nad yw'r gamp yn denu arian cyhoeddus ar hyn o bryd, mae Brian yn gyfrifol yn bersonol am dalu costau'r daith i Norwy. Mae ffrindiau wedi cyfrannu i'r achos ac mae tudalen ariannu torfol wedi ei chreu i wahodd rhagor o gefnogaeth.

Ar ddiwedd y bencampwriaeth byd yn Norwy fe fydd yn teithio'n syth i Oberhof yn Yr Almaen am ragor o hyfforddiant ac i gymryd rhan mewn cystadleuaeth arall.

Mae hefyd yn gobeithio cystadlu mewn digwyddiadau pellach yn St Moritz yn y Swisdir a Lake Placid yn America.

"'Da chi'n goro neud be medrach chi efo'ch bywyd," meddai. "'Da chi ond yma am dipyn bach... unwaith ti'n ca'l damwain, ti'n sylweddoli ti'n goro make the most of life, 'de."