Teithwyr i wynebu bore prysur ond heb ormod o oedi

  • Cyhoeddwyd
Trafnidiaeth Cymru

Mae Trafnidiaeth Cymru yn dweud y dylai pob gwasanaeth rheilffordd yng Nghymru weithredu fel arfer wrth i'r rhan fwyaf o deithwyr ddychwelyd i'r gwaith wedi gwyliau'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Roedd yna drafferthion i rai teithwyr yn ystod y gwyliau gan nad oedd pob trên yn teithio.

Mae disgwyl i ffyrdd Cymru fod yn brysurach fore Llun a gall gyrwyr ar draffordd yr M4, yn enwedig ger twneli Bryn-glas, Pont Hafren a Phort Talbot, ddisgwyl oedi.

Mae disgwyl tagfeydd hefyd ar ffordd yr A55 yn ystod oriau brig.

'100 trên newydd'

Er bod disgwyl gwasanaeth llawn ar y rheilffyrdd mae 'na rybudd i deithwyr gadw golwg ar wefan a chyfryngau cymdeithasol Trafnidiaeth Cymru rhag ofn bod trafferthion fore Llun.

Dros y Nadolig roedd oedi i nifer o deithwyr wrth i drenau gael eu tynnu oddi ar y cledrau ar gyfer gwaith trwsio.

Dywedodd Colin Lea o Trafnidiaeth Cymru: "Wedi hydref heriol roeddem yn falch i gynnal gwasanaeth trenau llawn cyn y Nadolig ac mae disgwyl i hynny barhau.

"Bydd nifer o newidiadau yn cael eu cyflwyno eleni - yn eu plith 100 trên newydd ac fe fyddwn yn ymgymryd â'r gwaith o lanhau nifer o orsafoedd yn drwyadl er mwyn darparu gwasanaeth gwell i'n cwsmeriaid."