Teyrngedau i'r cerddor a'r arweinydd Roy Bohana

  • Cyhoeddwyd
roy bohana
Disgrifiad o’r llun,

Y diweddar Roy Bohana yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn 1986

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r cerddor a'r arweinydd Roy Bohana sydd wedi marw yn 80 oed.

Roedd yn feirniad adnabyddus yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a bu'n gyfarwyddwr yr eisteddfod honno.

Bu hefyd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr ac yn Gyfarwyddwr Cerdd y Cyngor Celfyddydau Cymreig - rhagflaenydd Cyngor Celfyddydau Cymru.

Wrth roi teyrnged iddo dywedodd cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru Phil George: "Roedd Roy Bohana yn adnabyddus ac uchel ei barch ym mywyd diwylliannol Cymru.

"Cwmpasodd ei yrfa broffesiynol waith fel cerddor, arweinydd a beirniad.

"Yn ystod ei flynyddoedd maith o wasanaeth i Gymru, bu'n anogwr brwd i rai o ddigwyddiadau cerddorol pwysicaf ein cenedl, gydag Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a Gŵyl Gerdd Rynglwadol Gogledd Cymru ymhlith yr amlycaf.

"Bu'n allweddol hefyd o ran gweithio gyda'r BBC i ehangu a hyrwyddo enw da Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Roedd yn gwbl addas i'w gyfraniad dderbyn cydnabyddiaeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru trwy iddo gael ei ddyfarnu'n Gymrawd er Anrhydedd. Mae'n golled fawr ar ei ôl."

'Meddwl bywiog'

Un arall sydd wedi rhoi teyrnged iddo yw ei gyfaill y cerddor Brian Hughes.

Dywedodd: "Rwyf wedi beirniadu gydag o sawl gwaith mewn eisteddfodau ac roedd o'n feirniad dadansoddol iawn - roedd ganddo hefyd y ddawn i ddifyrru'r gynulleidfa wrth draddodi beirniadaeth.

"Roedd o'n stôr o wybodaeth - petawn yn gofyn cwestiwn iddo fe fyddai yn sicr o wybod yr ateb ond os na fe fyddai wedi dod nôl ag ateb o fewn hanner awr.

"Mae ei gyfraniad yn enfawr - yn Aberystwyth, tra'n y coleg, bu'n arwain y côr madrigal. Roedd ei gyfraniad gyda Chôr Poliffonig Caerdydd yn enfawr - ond yn fwy na dim fe fyddai i yn cofio ei gyfraniad i Eisteddfod Llangollen.

"Gan ei fod â chefndir o weithio i'r cyfryngau ac yn gweithio i Gyngor y Celfyddydau roedd e'n gweld manteision a pheryglon syniadau cyn neb arall. Roedd ganddo feddwl bywiog.

"Roedd pawb yn ei barchu fel beirniad - hyd yn oed y rhai anfuddugol."

'Achub cerddorfa'r BBC'

Ar y Post Prynhawn yn gynharach dywedodd cyn-bennaeth cerdd BBC Cymru, Huw Tregelles Williams, mai un o orchestion mawr Roy Bohana oedd achub cerddorfa'r BBC a'i datblygu i'r safon y mae hi heddiw.

Dywedodd: "Roedd e'n ddyn talentog ond roedd e hefyd yn deall arian ac roedd hynny yn gyfuniad prin yn y pumdegau a'r chwedegau - fe wnaeth e sicrhau statws i gerddorion Cymru a sicrhau bod eu gwaith yn cael ei glywed yn rhyngwladol.

"Roedd ganddo graffder am fanylion - yn enwedig manylion ariannol - roedd e'n arloeswr yn yr hyn a wnaeth. Roedd e'n enwog yma yng Nghymru ond hefyd ar draws y byd wrth iddo feirniadu cystadlaethau o bwys."

Cafodd ei wraig Liliana Bohana ei lladd mewn damwain car yn Sofia ym Mwlgaria yn 2001.