Cwpan FA: 'Gêm galed' i Gasnewydd yn y bedwaredd rownd
- Cyhoeddwyd

Llwyddodd Casnewydd i drechu Caerlŷr yn y drydedd rownd o'r gwpan ar Rodney Parade
Taith i Middlesbrough sy'n wynebu Casnewydd ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr.
Daeth yr enwau allan o'r het nos Lun gyda chadarnhad hefyd y bydd Abertawe gartref yn erbyn y tîm drechodd Caerdydd yn y drydedd rownd, Gillingham o Adran Un.
Roedd cic o'r smotyn hwyr Padraig Amond yn ddigon i hawlio buddugoliaeth gofiadwy i Gasnewydd yn erbyn Caerlŷr ddydd Sul ar Rodney Parade.
Wrth ymateb i gemau'r bedwaredd rownd, dywedodd rheolwr Casnewydd, Michael Flynn y byddai'n gêm galed yn erbyn Middlesbrough sy'n brwydro am ddyrchafiad o'r Bencampwriaeth.

Courtney Baker-Richardson sgoriodd y gyntaf i Abertawe wedi llai na dau funud o'r chwarae
"Mi fydd hi'n daith hir ac yn gêm galed. Dwi'n edrych ymlaen at wynebu tîm sy'n cael ei reoli gan ddyn o Gasnewydd yn Tony Pulis, mae gennyf lawer o barch tuag ato," meddai.
Mae Middlesbrough yn y pumed safle ar hyn o bryd yn y Bencampwriaeth.
Ychwanegodd Flynn: "Dwi'n gobeithio bydd gan Middlesbrough un llygad ar y gynghrair ac y byddwn ni yn cael diwrnod da arall."
Bydd y gemau'n cael eu chwarae rhwng 25-28 Ionawr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2019